- Rhif y Swydd
- SU01367
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £34,132 i £38,249 y flwyddyn
- Patrwm Gweithio
- Llawn Amser
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws y Bae, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 1 Chwef 2026
- Dyddiad Cyfweliad
- 18 Chwef 2026
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Prof Markus Roggenbach M.Roggenbach@swansea.ac.uk
- Dr Trang Doan t.t.doan@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae prosiect ENCYRCLE yn chwilio am gynorthwy-ydd ymchwil brwdfrydig i ymuno â thîm y prosiect ym Mhrifysgol Abertawe. Byddwch chi'n rhan o fenter ymchwil gwerth £2m gyda'r Ganolfan Ecsbloetio Ddigidol Genedlaethol (NDEC) sydd wedi'
i lleoli yng Nghymru, rhan o'r cwmni technoleg blaenllaw byd-eang Thales, i gryfhau seiberwydnwch systemau cysylltiedig, gan gynnwys y rhai hynny mewn trafnidiaeth.
Mae seiberwydnwch yn ymwneud â gallu system i gyflawni canlyniadau arfaethedig yn barhaus er gwaethaf digwyddiadau seiber andwyol. Yn ENCYRCLE, bydd modelu a gwirio yn llywio gwaith peiriannu diweddariadau system sydd â'r nod o adfer gwasanaethau yr effeithir arnynt heb beryglu darparu gwasanaethau eraill (nad oes effaith arnynt). Un sbardun i ddiweddariadau o'r fath yw'r angen i ddisodli cryptosystemau gan rai cwantwm-ddiogel, sy'n newid y mae'r NCSC yn annog ei gyflawni o 2028 ymlaen, er enghraifft.
Byddwch yn datblygu iaith fanyleb sy'n seiliedig ar SysML ar gyfer dylunio a dadansoddi seiberwydnwch. Un o gryfderau SysML yw’r ffaith nad yw wedi'i gysylltu ag i offeryn penodol ar gyfer gwirio a dilysu. Y syniad yw 'cysylltu' SysML ag offer. Drwy hyn, gellir defnyddio'r offer 'gorau' ar gyfer y dadansoddiadau dymunol. Yn ogystal â datblygu proffil SysML addas ac offer i’w ategu, byddwch hefyd yn dylunio trawsnewidiadau model i iaith fewnbwn offer dadansoddi fel efelychwyr, gwirwyr model a phrofwyr theorem. Dangosir y gadwyn offer sy'n deillio o hyn mewn astudiaeth achos o'r sector modurol.
Mae'r pecyn gwaith modelu yn ENCYCRLE yn cael ei arwain gan yr Athro Markus Roggenbach, sy'n bennaeth y Grŵp Seiberddiogelwch yn Abertawe. Mae'r prosiect ymchwil hwn yn cyd-fynd â strategaeth Llywodraeth y DU a bydd ei ganlyniadau'n llywio arferion gorau ac arweiniad diwydiant yn uniongyrchol, a bydd hefyd yn cyfrannu at systemau ac isadeiledd peirianneg gwydn. Bydd effaith y gwaith hwn yn llywio arweiniad ac egwyddorion sy'n sail i ddyluniad isadeileddau cenedlaethol allweddol a systemau peirianneg cymhleth mewn amrywiaeth o sectorau yn uniongyrchol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Rhannu Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr