Mae Read&Write yn adnodd cymorth llythrennedd sy'n cynnig help gyda thasgau beunyddiol wrth astudio ar lefel addysg uwch. Mae'n gallu helpu gyda nifer o dasgau, er enghraifft, darllen testunau hir neu ysgrifennu a phrawf-ddarllen eich aseiniadau, neu mae'n cynnig cymorth gydag adolygu am eich arholiadau. Gall y feddalwedd ddarllen unrhyw destun digidol yn uchel, ac mae'n cynnwys gwiriwr gramadeg a gwiriwr sillafu ffonetig. Dyluniwyd y feddalwedd hon gan ystyried hygyrchedd ac mae'n ddefnyddiol i fyfyrwyr nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf, neu fyfyrwyr ag anghenion ychwanegol megis Dyslecsia neu nam nad yw'n ddifrifol ar y golwg.
Sut mae cael mynediad at y feddalwedd
Mae Read&Write ar gael ar bob cyfrifiadur personol ar y campws i holl fyfyrwyr a staff y Brifysgol ei ddefnyddio. Mae ar gael drwy glicio ar 'Accessibility' ar y bwrdd gwaith unedig.
Yn ogystal, mae'n bosib y bydd myfyrwyr sy'n gymwys am y Lwfans i Fyfyrwyr Anabl yn gallu derbyn copi o'r feddalwedd ar gyfer eu cyfrifiadur nhw fel rhan o'u hasesiadau unigol a'u hanghenion am dechnoleg gynorthwyol.