Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cydnabod pwysigrwydd teithio llesol ac yn cefnogi Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 drwy hyrwyddo cerdded, olwyno a beicio i'r campws.

I'r rheini ohonoch sy'n byw'n ddigon agos, mae'n gwneud synnwyr i gerdded a theithio i'r campws ar droed. Gan ddibynnu ar ba ran o Abertawe rydych chi'n byw ynddi, mae llwybrau cerdded hyfryd i'r brifysgol a does dim ffordd well o gyflawni eich camau dyddiol. Mae cerdded yn ffordd wych o gael ymarfer corff ysgafn, mae'n dda i’ch lles corfforol a meddyliol, ac mae'n rhad ac am ddim! A phan na fyddwch yn astudio, dylech geisio cerdded ar gyfer eich teithiau lleol eraill hefyd.

Ni oedd y cyflogwr cyntaf yng Nghymru i gyflawni Achrediad Safon Aur Cyflogwr sy’n Cefnogi Beicwyr  ac rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid lleol gan gynnwys Cyngor Abertawe i wneud beicio o amgylch Abertawe'n ddiogel, yn gyfleus ac yn fforddiadwy i'n myfyrwyr a'n staff.  Mae gennym ystod o gyfleusterau a gweithgareddau beicio ar y campws ac rydym yn cynnal Teithiau Beicio Tywys rheolaidd i'r rheini sy'n hoffi beicio fel grŵp. 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am Deithio Llesol ar eu gwefan.

Dewch o hyd i bopeth sydd angen i chi ei wybod am Deithio Llesol yn Abertawe isod:

Cycle Friendly Employer Gold Award - Logo

GWIRIWCH EIN FIDEO AR MENTRAU TEITHIO LLESOL