Peirianneg Electronig a Thrydanol,
Mae Peirianneg Electronig a Thrydanol yn faes peirianneg cyffrous sy'n newid yn gyflym. Mae'n cynnwys technoleg lled-ddargludyddion, electroneg, cyfrifiaduron digidol, peirianneg meddalwedd, peirianneg pŵer, peirianneg ynni adnewyddadwy, telathrebu, peirianneg amledd radio, prosesu signalau, offeryniaeth, systemau rheoli a roboteg.
Yma yn Abertawe rydym yn cynnig graddau israddedig BEng a MEng gyda’r opsiwn i dreulio Blwyddyn Mewn Diwydiant a Blwyddyn Dramor yn ogystal â graddau MSc ôl-raddedig mewn Peirianneg Pŵer ac Ynni Cynaliadwy, a Pheirianneg Electronig a Thrydanol.