Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn aelod ymrwymedig o’r Consortiwm Prifysgolion Blaenllaw 20+20 Jiangsu–DU unigryw ers ei sefydlu yn 2016. Mae grŵp o fwy na 30 o brifysgolion blaenllaw o’r DU a rhanbarth Jiangsu yn Tsieina wedi ymrwymo i ddwyshau cydweithio ar ymchwil ac addysgu ar sail “llawer i lawer”.
Mae Datganiad Jiangsu yn cryfhau cydweithio ymchwil academaidd, yn datblygu ymgysylltu strategol ac yn dyfnhau partneriaethau rhyngwladol fel rhan o fuddsoddiad gwerth £40 miliwn mewn addysg uwch ryngwladol gan lywodraeth ranbarthol Jiangsu.
Wedi’i arwain ar y cyd gan y British Council, Universities UK ac Adran Addysg Ranbarthol Jiangsu, mae’r consortiwm wedi’i seilio ar fenter ‘Prifysgolion a Disgyblaethau o’r Radd Flaenaf ’ Llywodraeth Tseina, sy’n ceisio datblygu sawl un o’i sefydliadau i fod yn brifysgolion o’r radd flaenaf erbyn 2020. Mae rhanbarth Jiangsu, sy’n ail o ran CMC o blith 23 o ranbarthau Tsieina, wedi cael ei glustnodi fel un sy’n allweddol i’r uchelgeisiau hyn ac mae eisoes yn gartref i waith cydweithredol arloesol un i un rhwng sefydliadau addysg uwch, megis Xi'an Jiaotong-Prifysgol Lerpwl yn Suzhou.
Mae gan y Consortiwm dri maes thematig allweddol ar gyfer cydweithio: Gweithgynhyrchu Uwch, Peirianneg Amgylcheddol a Gofal Iechyd. Caiff y rhain eu cyflwyno drwy Hyfforddiant Doethurol, Buddsoddi Paratoadol ar gyfer Ymchwil Gydweithredol a Rhaglen Ymchwilwyr Gwadd.
Cymerodd Prifysgol Abertawe ran yng nghyfarfod Consortiwm Partnerniaid y DU yn 2020 yn Lerpwl a chyfarfod Zoom y Consortiwm ym mis Mai 2020, gan weithio i ddatblygu partneriaethau cydweithredol. Rydym wedi bod yn llwyddiannus wrth ddenu Ymchwilydd Gyrfa Gynnar o Jiangsu – bydd yr Athro Dehua Zhu o Brifysgol Gwybodeg a Thechnoleg Nanjing yn ymweld ag Abertawe fel Ymchwilydd Gyrfa Gynnar ym mis Ebrill 2021, a gynhelir gan Ji Li o Goleg Peirianneg (Ynni ac Amgylchedd) Prifysgol Abertawe. Bydd yr ymwelydd yn derbyn ysgoloriaeth JPDE.
Mae rhanbarth Jiangsu, sy’n ail o ran CMC o blith 23 o ranbarthau Tsieina, wedi cael ei glustnodi fel un sy’n allweddol i’r uchelgeisiau hyn ac mae eisoes yn gartref i waith cydweithredol arloesol un i un rhwng sefydliadau addysg uwch, megis Xi'an Jiaotong-Prifysgol Lerpwl yn Suzhou.
Amcanion
- Datblygu llwyfan a fydd yn dyfnhau ac yn ehangu lefel y gwaith ymgysylltu a chydweithio rhwng prifysgolion yn y DU a Jiangsu.
- Codi proffil addysg uwch yn Jiansgu yn y DU a sector addysg uwch y DU yn Jiangsu
- Manteisio ar gydweithio amlochrog fel ffordd o godi ansawdd a chystadleugarwch y sefydliadau perthnasol, gan rannu cyfleoedd a mynd i’r afael â heriau a rennir ar y cyd
Aelodau'r Consortiwm
Prifysgol Lerpwl yw Cadeirydd Consortiwm Prifysgolion Blaenllaw y DU-Jiangsu, ac mae’n hwyluso gwaith cydlynu a chyfathrebu rhwng aelodau, yn trefnu gweithgareddau ac yn cynllunio prosiectau ar y cyd â Chadeirydd Jiangsu.
| Aelodau (Jiangsu ) | UK Aelodau (UK) |
|---|---|
| Changzhou University | University of Cambridge |
| China University of Mining and Technology | Cranfield University |
| China Pharmaceutical University | Coventry University |
| Hohai University | University of Derby |
| Jiangnan University | University of Leicester |
| Jiangsu University | University of Leeds |
| Jiangsu Normal University | University of Liverpool |
| Jiangsu University of Science and Technology | University of Oxford |
| Nanjing University | University of Plymouth |
| Nanjing University of the Arts | Queen's University Belfast |
| Nanjing Agricultural University | University of Reading |
| Nanjing University of Aeronautics and Astronautics | Swansea University |
| Nanjing Forestry University | University of York |
| Nanjing University of Information Science & Technology | Lancaster University |
| Nanjing Medical University | |
| Nanjing Normal University | |
| Nanjing University of Posts and Telecommunications | |
| Nanjing University of Science and Technology | |
| Nanjing Technology University | |
| Nantong University | |
| Soochow University | |
| Southeast University | |
| Yangzhou University |
Cysylltwch â Julie Williams: Ebost | Ffôn: 01792 295824
Gwybodaeth bellach: Consortium page