Croeso i Brifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae ein cymuned amrywiol a chroesawgar yn ffynnu ar archwilio a darganfod, a cheir cydbwysedd o addysgu ac ymchwil rhagorol, ynghyd ag ansawdd bywyd gwych.
O ganlyniad i’n hymrwymiad i ymchwil a buddion ar gyfer y byd go iawn, dyfarnwyd bod 86% o ymchwil gyffredinol y brifysgol yn arwain y ffordd yn fyd-eang neu'n ardderchog yn rhyngwladol yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF 2021).
Abertawe yw'r brifysgol orau yng Nghymru yn ôl The Guardian University Guide 2024 a'r 25ain brifysgol orau yn gyffredinol.
Y gyfran o raddedigion mewn cyflogaeth, yn ymgymryd ag astudiaethau pellach a/neu weithgareddau eraill yw 95% (HESA 2023).
Mae myfyrwyr sy'n astudio yma yn mwynhau, yn cael eu hysbrydoli ac yn cyflawni - sydd oll yn rhoi cyfle gwell iddynt sicrhau rhagolygon cyflogaeth rhagorol.
Mae ein campysau glan môr trawiadol yn ein gwneud ni'n lleoliad dymunol ar gyfer myfyrwyr a staff o bedwar ban byd, ac mae ein cymuned amlddiwylliannol yn cynnig safbwynt byd-eang, gan alluogi'r rhai sy'n ymuno â ni i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth a fydd yn eu rhoi ar ben ffordd tuag at yrfaoedd llwyddiannus a gwerthfawr.