Croeso i dudalennau allanol adran Gaffael Prifysgol Abertawe. Nod y tudalennau hyn yw rhoi gwybodaeth i ddarpar gyflenwyr a chyflenwyr presennol.
Gwybodaeth i Gyflenwyr
Mae'r nwyddau a'r gwasanaethau y mae'r Brifysgol yn eu caffael - a'r ffordd y mae'n gwneud hynny - yn hanfodol wrth iddi wireddu ei gweledigaeth strategol ehangach.Wrth wario £100 miliwn y flwyddyn ar nwyddau a gwasanaethau megis TG, nwyddau labordy, gwasanaethau glanhau, teithio, cyfarpar ymchwil, gwasanaethau ymgynghori ac adeiladu, mae'n rhaid i'r Brifysgol sicrhau gwerth am arian a chydymffurfiaeth.
Er mai’r tîm Caffael canolog sy’n gyfrifol am yr holl weithgarwch caffael â gwerth uchel, mae'r Brifysgol yn gweithredu system cyllidebu ddatganoledig ac yn unol â honno mae'r cyfrifoldeb am brynu o ddydd i ddydd â gwerth isel wedi'i ddirprwyo i'r Cyfadrannau a'r Unedau Gwasanaeth Proffesiynol oherwydd eu bod yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau i ddiwallu'r anghenion gweithredol.
Mae tîm Caffael Prifysgol Abertawe yn cynnal prosesau tendro ar gyfer gwahanol gontractau a chytundebau pan fo hynny'n briodol. Hefyd, mae gennym fynediad at fframweithiau a chytundebau ym myd Addysg Uwch a'r sector cyhoeddus.
Fel corff sector cyhoeddus, mae'r Brifysgol yn cydymffurfio â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 ar gyfer gweithiau, nwyddau a gwasanaethau sy'n uwch na'r trothwyau. Hysbysebir tendrau sy'n uwch na'r trothwyau ar wefan GwerthwchiGymru neu fel arall fe'u dyfernir drwy fframwaith cydweithredol presennol.
Gweler dolen i'n hysbysiad preifatrwydd cyflenwyr yma: Hysbysiad Preifatrwydd Cyflenwyr Prifysgol Abertawe
Deddf Caffael 2023
Cyflwyniad
Mae cyfraith caffael cyhoeddus yn newid yn dilyn cyflwyno Deddf Caffael 2023 a'r Rheoliadau cysylltiedig newydd y bwriedir iddynt fod yn weithredol ar 24 Chwefror 2025.
Os ydych yn fusnes sy'n cyflenwi nwyddau, gwaith neu wasanaethau i Prifysgol Abertawe neu i'r sector cyhoeddus yng Nghymru, mae angen i chi wybod am y newidiadau hyn a'n cynlluniau i baratoi rhanddeiliaid i'w rhoi ar waith.
Bydd y darn pwysig hwn o ddeddfwriaeth yn trawsnewid y ffordd y mae awdurdodau contractio Cymru yn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith, gan ddod ag ystod o fuddion i gyflenwyr, gan gynnwys:
- Platfform digidol canolog: Bydd cyflenwyr yn gallu cofrestru a storio eu manylion fel y gellir eu defnyddio ar gyfer cynigion lluosog.
- Gwelededd cynlluniau caffael: Bydd gwell mesurau tryloywder yn caniatáu i gyflenwyr weld hysbysiadau caffael awdurdodau contractio Cymru ar GwerthwchiGymru a'r platfform digidol canolog, gan gynnwys piblinellau o gyfleoedd yn y dyfodol ar gyfer contractau dros £2m. Bydd hyn yn rhoi mwy o amser i gyflenwyr baratoi ar gyfer darparu, naill ai fel prif gontractwyr, aelodau o gonsortia neu is-gontractwyr yn y gadwyn gyflenwi.
- Prosesau symlach ar gyfer cyflwyno cynigion: Bydd prosesau symlach yn ei gwneud hi'n haws i gyflenwyr gyflwyno cynigion, trafod a gweithio mewn partneriaeth â'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
- Gweithdrefnau hyblyg: Bydd y weithdrefn Hyblyg Gystadleuol newydd yn caniatáu i awdurdodau contractio Cymru ddylunio eu proses gaffael eu hunain, sy'n arbennig o fuddiol ar gyfer datrysiadau cymhleth, uwch-dechnolegol neu arloesol.
- Fframweithiau masnachol hyblyg: Mae'r fframweithiau agored newydd yn fwy hyblyg felly nid yw darpar gyflenwyr yn cael eu cau allan am gyfnodau hir.
- Dyletswydd i ystyried BBaChau: Bydd dyletswydd ar awdurdodau contractio Cymru i ystyried y rhwystrau sy'n wynebu BBaChau ac ystyried sut y gellir eu goresgyn yn helpu busnesau llai i gystadlu am fwy o gontractau cyhoeddus.
- Talu'n brydlon: Bydd darpariaethau cryfach ar gyfer talu'n brydlon ledled y gadwyn gyflenwi yn galluogi BBaChau i elwa ar delerau talu 30 diwrnod ar ystod ehangach o gontractau sector cyhoeddus.
Bydd y newidiadau hyn yn ysgogi arloesedd, yn cyflawni canlyniadau gwell ac yn ymgorffori tryloywder drwy gydol y cylch oes masnachol, fel y gall pawb gael mynediad at ddata caffael a gweld sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario.
Er nad yw'r Ddeddf Caffael yn llywodraethu cyflenwyr yn uniongyrchol mewn gwirionedd, ei nod yw ei gwneud yn haws i chi wneud busnes gyda'r sectorau cyhoeddus a chyfleustodau, felly mae angen i chi ddeall beth mae'n ei olygu i'ch sefydliad.
Rydym yn annog pob cyflenwr i edrych ar y gyfres o fideos hyfforddi byr ‘Rhannu Gwybodaeth’, sydd wedi'u teilwra'n benodol ar gyfer cyflenwyr, gan gynnwys BBaChau a Mentrau Cymdeithasol Cymunedol Gwirfoddol.
Camau allweddol ar gyfer cyflenwyr
- Cofrestru: Gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar y platfform digidol canolog unwaith y bydd hwn ar gael i gael gafael ar eich ID cyflenwr unigryw ac i weld yr holl Hysbysiadau a gyhoeddir o dan y Ddeddf Caffael.
- Gwybodaeth Graidd: Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau gwybodaeth graidd y cyflenwr ar y platfform digidol canolog os ydych yn dymuno tendro am gontractau sector cyhoeddus.
- Telerau talu: Dylech fod yn ymwybodol o'r telerau talu 30 diwrnod sydd ymhlyg ym mhob “is-gontract cyhoeddus”.
Gwybodaeth allweddol ar gyfer cyflenwyr
- Rheoli Perfformiad: Bydd yn ofynnol i awdurdodau contractio Cymru osod Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer contractau dros £5m a chyhoeddi perfformiad yn erbyn y Dangosyddion Perfformiad Allweddol hyn.
- Rhagwaharddiad a gwaharddiad: Bydd rhestr rhagwaharddiad yn bodoli. Bydd cyflenwyr sydd i'w cofnodi ar y rhestr yn cael hysbysiad yn gyntaf. Gall cyflenwr wneud cais i gael ei dynnu o'r rhestr ar unrhyw adeg.
Amodau a thelerau Prifysgol Abertawe
Oni nodir fel arall mewn cais am ddyfynbris neu ddogfennaeth dendro, mae pob Archeb Brynu a gyflwynir gan y Brifysgol yn ddarostyngedig i'r Amodau a Thelerau safonol fel isod:
Am fwy o wybodaeth am ein Telerau ac Amodau cysylltwch â Procurement@abertawe.ac.uk