Mae myfyrwyr wrth wraidd ein Prifysgol; rydym yn gweithio mewn partneriaeth â nhw a'n Hundeb Myfyrwyr er mwyn ystyried eu hanghenion a'u disgwyliadau wrth i ni wneud penderfyniadau.
Rydym yn ymfalchïo yn ein henw da cyson ar gyfer ansawdd ein profiad myfyrwyr, cryfder ein gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, a'n hymrwymiad i iechyd a lles meddyliol myfyrwyr.
Ein nod yw gwario'n ddoeth yr incwm rydym yn ei gael, ac fel elusen mae gennym gyfrifoldeb i ail-fuddsoddi unrhyw incwm ychwanegol ar ôl talu costau yn ôl i'r Brifysgol er mwyn ategu ein gweledigaeth a'n diben strategol.
Mae ein Adolygiad Blynyddol 2025 yn darparu gwybodaeth fanwl am y mathau o weithgareddau y gwnaethom ddefnyddio ein hincwm i'w hariannu yn ystod y cyfnod o 1 Awst 2024 tan 31 Gorffennaf 2025.
Rydym yn cael incwm gan amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys ffïoedd myfyrwyr, grantiau'r llywodraeth a grantiau ymchwil, drwy greu ein hincwm ein hun drwy weithgareddau sy'n ymwneud â mentergarwch, arloesi ac addysg, gan gael rhoddion ac adenillon ar fuddsoddiadau.
Mae cyfran sylweddol o gyllid y Brifysgol yn cael ei gwario ar staff a gweithgareddau sy'n ategu addysgu ac ymchwil yn uniongyrchol.
Fodd bynnag, ceir costau sylweddol sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau i fyfyrwyr, rheoli'r Brifysgol, a sicrhau bod ein hadeiladau, ein cyfleusterau a'n hoffer i gyd yn gweithredu'n effeithlon ac yn cael eu cynnal a chadw i safonau derbyniol.
Mae gwerth am arian ar gyfer ein staff a'n myfyrwyr wrth wraidd y Brifysgol. Nod yr wybodaeth yn y crynodeb a ddarperir isod yw dangos hyn drwy amlygu o ble daeth incwm y Brifysgol yn 2024/25 a sut cafodd ei wario.
Canlyniadau Ariannol Ar Gyfer 2025
Yn ystod y flwyddyn hyd at fis Gorffennaf 2025, creodd y Brifysgol incwm o £333m, gan nodi diffyg o £35m. Yn unol â llawer o sefydliadau yn y sector Addysg Uwch, wynebodd y Brifysgol heriau mawr o ran cyllid, ac mae'r rhain yn debygol o barhau. Lansiwyd Rhaglen Cynaliadwyedd Ariannol uchelgeisiol yn 2023/24 sydd ar waith o hyd, gan sicrhau'r arbedion gofynnol i barhau i ddiwallu anghenion a disgwyliadau ein myfyrwyr.
O Ble Y Daw Ein Hincwm
Yn 2024/25, cynyddodd ein cyfanswm incwm 13% i £333 miliwn.
Incwm fesul categori 2024/25
| Incwm |
Y Flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2025 (£m) |
Ffïoedd dysgu a chontractau addysg Mae incwm o ffioedd dysgu yn cynnwys ffioedd dysgu israddedigion ac ôl-raddedigion sy’n fyfyrwyr o'r DU a thramor. |
177 |
Grantiau Corff Ariannu Mae Medr yn rhoi grantiau i ategu addysgu, ymchwil a gweithgareddau perthynol. Mae grantiau'n cynnwys cyllid ar gyfer pynciau drutach a phynciau sy'n peri costau uwch, cyllid uwch ar gyfer myfyrwyr cyfrwng Cymraeg a myfyrwyr anabl, cyllid ymchwil a chyllid arloesi. Dyrennir cyllid cyfalaf (£37m) i ategu addysgu ac ymchwil. |
39 |
Grantiau a chontractau ymchwil Mae hyn yn cynnwys grantiau ymchwil ac incwm contractio gan gynghorau ymchwil, llywodraethau a chyrff iechyd y DU a thramor, byd diwydiant ac elusennau. |
51 |
Incwm arall (gan gynnwys incwm buddsoddi, rhoddion a gwaddolion) Mae hyn yn cynnwys incwm o ffynonellau eraill gan gynnwys preswylfeydd myfyrwyr, ymgynghori, incwm academaidd arall, cynadleddau ac incwm gan y GIG o ran yr ysgol feddygaeth. |
66 |
| Cyfanswm Incwm |
333 |
Sut Rydym Yn Gwario Ein Hincwm
Yn 2024/25, gwnaethom wario £361 miliwn wrth ategu ein gweithgareddau addysgu ac ymchwil, sydd wedi gostwng o £402 miliwn yn 2023/24. Cynlluniwyd y gostyngiad hwn mewn gwariant fel rhan o'r Rhaglen Cynaliadwyedd Ariannol, gan sicrhau dyfodol y Brifysgol. Gostyngodd y cyfanswm gwariant 10% ers y flwyddyn flaenorol, wrth i wariant academaidd ac academaidd-berthynol ostwng 3% yn unig.
Gwariant fesul categori 2024/25
| Gwariant |
Y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Gorffennaf 2025 (£m) |
Gwariant academaidd a pherthynol Mae hyn yn talu am y cymorth addysgu ac academaidd, ynghyd â'r offer a'r gwasanaethau i ategu addysgu. |
163 |
Grantiau a chontractau ymchwil Mae'r Brifysgol yn gweithio mewn cydweithrediad â phartneriaid allanol i gynnal ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ac sy'n rhagorol yn rhyngwladol. |
38 |
Gweinyddu, gwasanaethau canolog a gwariant arall Dyma'r gost o ddarparu'r gwasanaethau i roi profiad o safon i fyfyrwyr |
68 |
Mangreoedd Mae hyn yn cynnwys cynnal a chadw'r campysau, gan sicrhau bod cyfleusterau a mannau o'r radd flaenaf ar gael i'n myfyrwyr a'n hymchwilwyr. |
35 |
Preswylfeydd ac arlwyo Dyma wariant ar y preswylfeydd myfyrwyr a'r cyfleusterau arlwyo ar draws y ddau gampws. |
28 |
Llog ar fenthyciadau ac ad-daliadau Mae gan y Brifysgol fenthyciadau sylweddol a ddefnyddir i ehangu a gwella'r Campws a chyfleusterau. |
9 |
Ar gyfer buddsoddi yn ein dyfodol Gwneir buddsoddiadau mewn isadeiledd a gweithgareddau i sicrhau y gallwn barhau i gyflawni ar strategaeth y Brifysgol. |
20 |
| Cyfanswm gwariant |
361 |
Mae'r diagram isod yn dangos y gydran o bob £1 sy’n cael ei gwario ar y prif gategorïau gwariant.
Manylion o'r gwariant fesul pob £1 wedi'i gwario

Mae rhagor o wybodaeth fanwl ar gael i'r cyhoedd yn yr Adolygiad Blynyddol 2025