Rhandaliad 1af (33%) yn ddyledus erbyn 10 Chwefror 2024
2il randaliad (33%) yn ddyledus erbyn 10 Mai 2024
Rhandaliad olaf (34%) yn ddyledus erbyn 4 Medi 2024
BLWYDDYN ACADEMAIDD 2022/23
Pa delerau talu sy'n cael eu cynnig?
Mae ffioedd dysgu yn daladwy yn llawn wrth gofrestru, ond mae'r Brifysgol yn ymwybodol o'r baich ariannol a allai godi yn sgil talu ffioedd dysgu, felly bydd yn caniatáu i fyfyrwyr dalu mewn 3 rhandaliad (33%, 33% a 34%).
Noder na fydd unrhyw ysgoloriaethau neu fwrsariaethau a ddyfarnwyd i chi yn cyfrif tuag at daliad eich rhandaliad cyntaf. Er enghraifft, os yw’ch ffioedd yn £5,500 a’ch bod wedi derbyn ysgoloriaeth o £1,000, caiff swm yr ysgoloriaeth ei ddidynnu felly byddai gennych chi 3 rhandaliad o 33%, 33% a 34% i’w talu.
Os byddwch yn dewis manteisio ar yr opsiwn rhandaliadau, gofynnir i chi gyflwyno mandad debyd uniongyrchol dilys cyn neu wrth gofrestru. Yna, byddwn yn gwneud trefniadau i gasglu'r ffioedd mewn 3 rhandaliad ar y dyddiadau canlynol, yn dibynnu ar y math o gwrs a dyddiad cychwyn eich cwrs.
Mae’r trefniadau talu ar gyfer myfyrwyr Ôl-raddedig Ymchwil yn amrywio ychydig o’u cymharu â’r trefniadau ar gyfer myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir. Y prif reswm yw bod Rhaglenni Ôl-raddedig a Addysgir yn fras yn dilyn strwythur y flwyddyn academaidd Israddedig, tra bod myfyrwyr Ymchwil yn cofrestru ar gylch treigl o 12 mis.
Math o gwrs | Dyddiad dechrau | Rhandaliad 1af 33% | 2il randaliad 33% | 3ydd rhandaliad 34% |
---|---|---|---|---|
Ymchwil Ôl-raddedig | Hyd 2022 | 04/11/2022 | 10/02/2023 | 08/06/2023 |
Ymchwil Ôl-raddedig | Ion 2023 | 10/02/2023 | 12/05/2023 | 04/09/2023 |
Ymchwil Ôl-raddedig | Ebr 2023 | 08/04/2023 | 07/08/2023 | 07/12/2023 |
Ymchwil Ôl-raddedig | Gorff 2023 | 10/07/2023 | 07/11/2023 | 08/03/2024 |
Ymchwil Ôl-raddedig | Hyd 2023 | 01/11/2023 | 10/02/2024 | 06/06/2024 |
Ymchwil Ôl-raddedig | Ion 2024 | 10/02/2024 | 10/05/2024 | 04/09/2024 |
Ymchwil Ôl-raddedig | Ebr 2024 | 30/04/2024 | 07/08/2024 | 07/12/2024 |
Ymchwil Ôl-raddedig | Gorff 2024 | 22/07/2024 | 07/11/2024 | 08/03/2025 |
(Bydd Myfyrwyr Ymchwil Rhyngwladol yn talu 50% wrth gofrestru a 25% yr un ar gyfer yr 2il a’r 3ydd rhandaliad)
Dylid gwneud POB taliad i Brifysgol Abertawe drwy ein partner taliadau, Convera, fel y nodir isod:
Gall pob myfyriwr dalu ei ffioedd gan ddefnyddio platfform taliadau Prifysgol Abertawe sy'n cael ei bweru gan ein partner Convera GlobalPay.
Mae hyn yn caniatáu i chi, eich rhieni a'ch noddwyr dalu ffioedd myfyrwyr GBP yn yr arian o'ch dewis mewn ffordd syml a diogel.
TAFLEN WYBODAETH MYFYRWYR (CLICIWCH I AGOR)
Sut i dalu gyda Convera GlobalPay:
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am ffioedd dysgu a’ch bod am siarad ag aelod o'n tîm, mae gennym Sesiynau Galw Heibio ar Gampws y Parc, ar y dyddiau a'r amseroedd isod.
Campws Singleton - Adran Gyllid, Llawr Gwaelod:
Dydd Mawrth | 10:00yb - 12:00yp |
Dydd Iau | 2:00yp - 4:00yp |
Gallwch fynd i’n sesiynau sgwrsio byw ar-lein gan ddefnyddio'r ddolen isod:
Dydd Llun | 2.00yp - 4.00yp |
Dydd Mercher | 2.00yp - 4.00yp |
Dydd Gwener | 2.00yp - 4.00yp |
Ebost: income.tuition@swansea.ac.uk