Eich Diogelwch yw Ein Blaenoriaeth
Eich Diogelwch yw Ein Blaenoriaeth
Mae Prifysgol Abertawe yn gymuned gampws ddiogel. Rydyn ni’n cyflogi tîm o weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a diogelwch i’n helpu ni i sicrhau bod ein campysau’n darparu amgylchedd diogel lle y gall dysgu ac ymchwil o safon fyd-eang ffynnu.
Gallwch chi ddysgu mwy am iechyd a diogelwch ar y campws isod.
Gwelliant Parhaus
Rydym yn ymroddedig i weithio mewn partneriaeth â myfyrwyr a staff y Brifysgol i ddatblygu ein gwasanaeth a’n staff yn barhaus, sy’n ymgymryd â swm sylweddol o hyfforddiant gwasanaethau cwsmeriaid, ynghyd â hyfforddiant cymorth cyntaf, cymorth cyntaf iechyd meddwl, hyfforddiant ymyrryd mewn hunanladdiad a helpu unigolion â nam symudedd adael adeiladau mewn argyfwng
Offer, Cyfarpar ac Adnoddau
I’n cefnogi wrth ymgymryd â’n dyletswyddau, rydym yn defnyddio amrywiaeth o offer, technoleg a chyfarpar megis CCTV, canfod tresmaswyr a systemau rheoli mynediad.
Rydym yn wasanaeth mewn swyddwisg. Mae ein swyddwisg yn gweithredu fel rhywbeth sy’n atal troseddu rhad ac effeithiol a hefyd mae’n hawdd ein hadnabod yn y gymuned rydym yn ei gwasanaethu yn ogystal ag ar gyfer ein partneriaid yn y gwasanaethau brys – mae hyn yn hanfodol mewn sefyllfaoedd o argyfwng gan ein bod yn gweithredu o dan yr un protocolau â’r gwasanaethau brys lleol.