Sicrhau Iechyd a Diogelwch Cymuned ein Campws
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn cymryd ymagwedd synhwyrol at reoli iechyd a diogelwch.
Dan arweiniad ein Polisi Iechyd a Diogelwch cynhwysfawr*, rydym wedi ymrwymo i sicrhau y caiff rheolaeth iechyd a diogelwch ei gwreiddio yn y ffordd rydym yn rheoli ein gweithrediadau busnes o ddydd i ddydd.
Mae ein tîm o weithwyr iechyd a diogelwch ymroddedig yn gweithio gyda staff a myfyrwyr ar draws y Brifysgol i wreiddio diwylliant iechyd a diogelwch a gwella ein prosesau a’n gweithdrefnau sy'n gysylltiedig â diwylliant iechyd a diogelwch yn barhaus er mwyn sicrhau y gall ein myfyrwyr a'n staff ymgymryd â'u hymchwil, gweithio ac astudio'n ddiogel.
Mae gwybodaeth am bolisïau iechyd a diogelwch, cyngor, arweiniad a hyfforddiant manwl ar gael i staff y Brifysgol ar ein mewnrwyd i staff. Mae myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig presennol yn gallu cael mynediad at yr holl wybodaeth am iechyd a diogelwch, arweiniad a hyfforddiant perthnasol ar wefan MyUni Abertawe. Cliciwch ar y blychau isod i gael mynediad at y platfform sy'n berthnasol i chi.
*Os hoffech weld copi o'n Polisi Iechyd a Diogelwch, e-bostiwch y tîm iechyd a diogelwch.