Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymrwymedig i ddarparu bwyd ffres a fforddiadwy i'n staff a'n myfyrwyr er mwyn rhoi egni i'r meddwl a'r corff.
Rydym yn croesawu cymuned amrywiol ac yn falch o arlwyo ar gyfer amrywiaeth eang o ofynion deietegol drwy ein hymgyrch Bwyta'n Dda ar y Campws, sy'n cynnwys prydiau sy'n fegan, yn llysieuol, yn addas ar gyfer halal, a chynhwysion nad ydynt yn cynnwys glwten, sy'n ei gwneud yn haws nag erioed i ddod o hyd i fwyd sy'n addas ar eich cyfer chi.
Ar draws y campws, mae rhywbeth at ddant pawb ac sy'n addas ar gyfer pob cyllideb:
- Dewisiadau iach: Beth am greu eich salad ffres eich hunain yn y bar salad newydd sbon yn Taliesin, neu gallwch fwynhau tatws pob gyda phrisiau'n dechrau o £4.00 yn unig.
- Ein ffefrynnau am bris da: Gallwch fwynhau cyw iâr a sglodion yn Harbwr, Singleton, am £4.50 yn unig. Neu, edrychwch ar ein bwydlen 'Bwyd Clasurol' sy'n cynnwys macaroni a chaws, bara garlleg a salad blasus am £4, sydd ar gael ar ein ap Time2Eat.
- Lleoedd newydd: Ymlaciwch yn y bar newydd yn y Guddfan, sy'n berffaith ar gyfer ymlacio gyda'ch ffrindiau ar ôl darlithoedd.
- Eich hoff frandiau: Gallwch fwynhau burrito llysieuol yn llawn protein yn Tortilla, yn ogystal â'r teisennau crwst o Greggs, y mae pawb yn hoff ohonynt.
Gan gadw'r cgostau o fbyw mewn cof, rydym yn parhau i ymdrechu i gadw prisiau bwyd ar y campws yn fforddiadwy, p'un a yw hynny'n fargen pryd bwyd am £3.85 o Tesco, yn tsili fegan poeth i'ch cynhesu, neu’n fyrgyr wedi'i baratoi'n ffres ar y gril.
Beth bynnag fo eich hoff fwydydd, eich anghenion deietegol, neu eich cyllideb - mae rhywbeth blasus bob tro'n aros amdanoch ar y campws.
Bwyta'n dda ar y campws