Mae Prifysgol Abertawe yn gorfforaeth annibynnol y daw ei statws cyfreithiol o Siarter Frenhinol a gymeradwywyd yn wreiddiol ym 1920. Mae’r Brifysgol yn gweithredu o fewn fframwaith cyfansoddiadol a sefydlwyd gan ei Siarter a’i Statudau a gefnogir gan Ordinhadau manwl. Y Cyngor yw Corff Llywodraethu’r Brifysgol ac mae’n cynnal ei fusnes yn unol â saith egwyddor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus: anhunanoldeb, uniondeb, gwrthrycholdeb, atebolrwydd, bod yn agored, gonestrwydd, ac arweinyddiaeth.
Mae'r adroddiad llywodraethu ar gyfer Prifysgol Abertawe wedi'i amlinellu o fewn Strwythur y Pwyllgor.