Ymrwymiad Prifysgol Abertawe i Ddeddf Gaethwasiaeth Fodern 2015
Mae caethwasiaeth modern yn drosedd ac yn torri hawliau dynol sylfaenol. Mae'n cymryd sawl ffurf, megis caethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur gorfodol a masnachu pobl, yr hyn sydd gan bob ffurf yn gyffredin yw unigolion yn colli eu rhyddid gan weithred unigolyn arall er mwyn manteisio arnynt er budd personol neu fasnachol.
Llunir datganiad caethwasiaeth a masnachu pobl y Brifysgol yn unol ag adran 54(1) o Ddeddf Gaethwasiaeth Fodern 2015.