Egwyddorion diogelu
Mae pawb ym Mhrifysgol Abertawe yn gyfrifol am ddiogelu. Mae arferion diogelu effeithiol, yn unol â’r ddeddfwriaeth a chyfarwyddyd, yn fwyaf tebygol o gael eu cyflawni os oes cysondeb rhwng yr egwyddorion sy'n sail i’r ddeddfwriaeth, y cyfarwyddyd a’r egwyddorion yng ngweithdrefnau diogelu Cymru.
Mae’n rhaid i arferion Diogelu effeithiol gynnwys y canlynol:
- Bod pawb ym Mhrifysgol Abertawe, a'r sefydliad ei hun, yn chwarae’i ran ac yn cyfrannu at ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion sydd mewn perygl.
- Rhannu gwybodaeth yn unol â chanllawiau rhannu gwybodaeth i ddiogelu pobl; a rhannu gwybodaeth er mwyn diogelu plant
- Gweithio gyda'n gilydd yn y Brifysgol neu gydag asiantaethau allanol i ddatblygu gwell ddealltwriaeth o’r unigolyn, ei amgylchiadau a'i anghenion am ofal, cymorth a diogelwch.
- Gweithio ar y cyd â'r plentyn neu'r oedolyn sydd mewn perygl i ddeall ei sefyllfa yn llawn ac i sicrhau ei fod yn teimlo fel ei fod yn cael ei barchu a’i fod yn derbyn gwybodaeth briodol.
Yn fwy penodol, dylai pob person sydd mewn cysylltiad â phlant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso, eu gofalwyr a'u teuluoedd; (neu ag oedolion a allai beri risg ddiogelu; neu sy'n gyfrifol am drefnu gwasanaethau i blant ac/neu oedolion:
- Ddeall ei rôl a'i gyfrifoldebau i ddiogelu a hyrwyddo lles plant ac oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso.
- Bod yn gyfarwydd â gweithdrefnau a phrotocolau diogelu Prifysgol Abertawe a glynu wrthynt, gwybod â phwy i gysylltu i drafod pryderon am blentyn neu oedolyn sydd mewn perygl o gael ei gam-drin a'i esgeuluso, a hefyd ddeall ei ddyletswydd i roi gwybod i rywun am bryderon.
- Bod yn wyliadwrus o arwyddion o gam-drin a diffyg gofal.
- Derbyn hyfforddiant i lefel sy’n cyd-fynd â'ch rôl a'ch cyfrifoldebau.
- Gwybod pryd a sut i roi gwybod i'r gwasanaethau cymdeithasol neu'r heddlu pan fydd gennych unrhyw bryderon am gam-drin ac esgeulustod.
- Deall, a bod yn effro i’r risg y gall camdrinwyr unigol, neu gamdrinwyr posibl, eu peri i blant neu oedolion sydd mewn perygl o gael eu cam-drin a'u hesgeuluso.
- Adnabod pan fydd gallu person sy’n gofalu wedi’i beryglu, hynny yw, pan fo ganddo broblemau a allai effeithio ar ei allu i ddarparu gofal effeithiol a phriodol, neu a allai olygu ei fod yn peri risg o niweidio.
- Bod yn ymwybodol o’r effeithiau mae cam-drin ac esgeuluso yn eu cael ar blant ac oedolion sydd mewn perygl.
- Deall y broses ddiogelu.
- Cyfrannu fel y bo'n ofynnol at bob cam o'r broses ddiogelu.