Mae campysau Prifysgol Abertawe'n gyfoethog mewn harddwch naturiol a bioamrywiaeth.

Mae Campws Parc Singleton yn swatio yn un o fannau gwyrdd mwyaf godidog Abertawe, Parc Singleton, gan gynnwys parcdir agored, coetir aeddfed, glaswelltir, borderi wedi'u plannu a phyllau - oll yn cefnogi ystod eang o fywyd gwyllt. Hefyd mae Campws y Bae yn eistedd ar y traeth, drws nesaf i Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Twyni Crymlyn, gan roi mynediad uniongyrchol i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr at gynefinoedd arfordirol unigryw.

The Green Flag flying on the approach to Fulton House on Swansea University's Singleton Park Campus. Beautiful trees and boarders are in the foreground.
Abbaty Singleton

Gydag erwau o dir i’w harchwilio’n hamddenol, gan gynnwys Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Twyni Crymlyn ar Gampws y Bae a’n Gardd Fotaneg restredig ym Mharc Singleton, mae Prifysgol Abertawe yn cynnig amgylchedd awyr agored rhagorol y gall myfyrwyr, staff a’r gymuned eu mwynhau.

Mae tiroedd Prifysgol Abertawe ar agor i bawb. Cyn i chi ddod i’w mwynhau, beth am ddarllen am rai o’r trysorau cudd sydd gennym yn swatio yn ein tiroedd trawiadol drwy glicio ar y lluniau isod?

RHEOLI TIROEDD MEWN FFYRDD CYNALIADWY

Caiff ein tiroedd hyfryd eu rheoli gan dîm o arbenigwyr rheoli tiroedd proffesiynol sy'n ymrwymedig i'w datblygu a'u cadw, fel y gall ein cymuned amrywiol yn y Brifysgol fwynhau amgylchedd unigryw i gael seibiant o'u hastudiaethau neu eu gwaith.

Mae’r tîm yn gweithio’n agos gyda Thîm Cynaliadwyedd y Brifysgol i sicrhau y rheolir cyfrifoldebau amgylcheddol ac y caiff yr effaith ar yr amgylchedd ei lleihau.

Cliciwch ar y botwm isod i ganfod sut rydym yn diogelu ein hamgylchedd naturiol

Bioamrywiaeth ar y campws