Baker bant i Gemau Olympaidd 2024!

Rydym yn hynod falch o gyhoeddi y bydd ein Prif Hyfforddwr Nofio, Hayley Baker, ar lwyfan y byd yn ystod Gemau Olympaidd Paris 2024, pan fydd hi'n hyfforddwr y marathon nofio ar gyfer Tîm PF.

Mae Hayley wedi bod yn hyfforddwr yma ym Mhrifysgol Abertawe am dros 5 mlynedd, a dyma fydd ei hail Gemau Olympaidd yn olynol yn dilyn ei henwebiad ar gyfer Tîm PF yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn 2020, lle mai hi oedd yr unig gynrychiolydd o glwb nofio yng Nghymru. Yn ddiweddar, mae Hayley wedi bod yn hyfforddwr y marathon nofio ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Doha, lle enillodd un o'i hathletwyr, Hector Pardoe, fedal efydd yn ras 10km y dynion, gan sicrhau lle yng ngemau Paris 2024.

Bydd rôl Hayley'n cynnwys paratoi nofwyr y marathon ar gyfer y gemau Olympaidd a'u cynorthwyo nhw i gyflawni perfformiadau o'r radd flaenaf yn eu rasys. Yn ystod ei hamser ym Mharis, bydd Hayley'n paratoi'r athletwyr yn feddyliol ac yn gorfforol, yn barod i nofio'r pellter 10k, yn ogystal â darparu'r 'gorsafoedd bwydo' lle bydd Hayley'n darparu'r maeth i'r athletwyr yn ystod y digwyddiad. 

Buom yn sgwrsio â Hayley am y cyfle gwych hwn a dysgu mwy am ein hyfforddwr nofio anhygoel.  Gwyliwch y clip yma. Rydym yn hynod falch o gyflawniadau Hayley ac yn dymuno'n dda iddi wrth iddi arwain y ffordd ym Mharis!

Mae ein partneriaid, Nofio Cymru, yn falch o gyhoeddi y bydd dau o'u hathletwyr yn ymuno â Hayley ym Mharis. Gwnaeth Daniel Jervis, cyn athletwr Olympaidd yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020, sicrhau ei le ar gyfer Paris pan enillodd y ras 1500m ym Mhencampwriaeth Nofio a Champau Dŵr PF yn gynharach y mis hwn yn Llundain. Ynghyd â Dan, bydd Hector Pardoe, un arall o athletwyr Nofio Cymru, hefyd yn cystadlu yn ei ail gemau Olympaidd ym Mharis 2024, gan iddo ennill medal efydd 10k hanesyddol ym Mhencampwriaeth Campau Dŵr y Byd, ac yntau’r dyn Prydeinig cyntaf i ennill medal fyd-eang ers y Cymro David Davies, gan sicrhau ei le yng ngemau Olympaidd eleni. 

Llongyfarchiadau i chi i gyd, cyflawniad anhygoel - mwynhewch y cyfle hwn!

Dysgwch fwy am y rhaglen nofio y mae Hayley yn ei harwain yma - https://www.swansea.ac.uk/sport/swimming/

Rhannu'r stori