
Mae 2025 wedi cychwyn yn anhygoel i Bod yn ACTIF, rhaglen weithgareddau hwyliog a chynhwysol Prifysgol Abertawe!
Ar ôl llwyddiant ysgubol yn Ffair y Refreshers, rydym eisoes wedi croesawu bron i 300 o gyfranogwyr newydd, gan ddod â’n cofrestriadau cyffredinol eleni i 1,791—camp wych!
Pam Ymuno â Bod yn ACTIF?
Mae Bod yn ACTIF yn ymwneud â chael hwyl, gwneud ffrindiau newydd, a chadw’n heini, boed yn rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu ail-ddarganfod hen hobi. O chwaraeon hamddenol i anturiaethau awyr agored, mae rhywbeth at ddant pawb—does dim angen profiad na chyfarpar!
Yn ogystal, mae gweithgarwch corfforol rheolaidd yn ffordd wych o wella iechyd meddwl, lleihau straen o astudio, a chymryd seibiant haeddiannol.
Beth Fu’n Boblogaidd?
Yn Nghyfnod 1, roedd badminton a phêl-droed yn llwyddiant mawr, gyda myfyrwyr a staff fel ei gilydd yn mwynhau’r sesiynau. Wrth i ni gamu i mewn i Gyfnod 2, rydym yn cofleidio’r awyr agored ac yn cyflwyno hyd yn oed mwy o weithgareddau cyffrous!
Beth Sydd Ar Ddod?
✅ Syrffio yn y Gŵyr 🌊
✅ Teithiau cerdded golygfaol ym Margam, Coed Penllergare a Phorth Einon 🌿
✅ Cerdded ceunentydd yn Bannau Brycheiniog ⛰️
✅ Sesiynau ioga hamddenol 🧘
✅ Dringo creigiau yn Flashpoint 🧗
✅ Sesiynau saethyddiaeth gyda’n Clwb Saethyddiaeth gwych 🎯
Mae croeso i bawb unrhyw bryd drwy gydol y flwyddyn! P’un a ydych eisiau cadw’n heini, cwrdd â phobl newydd, neu gymryd hoe fach o’ch astudiaethau, mae Bod yn ACTIF yma i chi.
💬 Oes gennych chi gwestiynau? Byddai’n braf clywed gennych!
🔗 Ymunwch â theulu Bod yn ACTIF heddiw – Cofrestrwch Yma!