Cefnogi lles ein hysgolheigion chwaraeon
Mae'n bleser gennym weithio ar y cyd â Sporting Wellness i gefnogi iechyd meddwl a lles ein hysgolheigion chwaraeon.
Drwy Sporting Wellness, mae ein hysgolheigion chwaraeon yn cael mynediad at gymorth am ddim sy'n gyfrinachol, ddydd a nos bob dydd o'r flwyddyn, sy'n cynnwys:
- Llinell gymorth ddydd a nos, bob dydd o'r wythnos a phob dydd o'r flwyddyn ar gyfer cwnsela dros y ffôn
- Sesiynau cwnsela wedi'u strwythuro
- Mynediad at gynghorwyr cyfreithiol mewnol
- Mynediad at Sgwrsio Byw neu gwnsela drwy e-bost
- Adnoddau hunangymorth helaeth
- Rhaglen Therapi Ymddygiad Gwybyddol ar-lein
Mae'r pecyn gwych hwn o gymorth cyfrinachol yn cynnwys amrywiaeth eang o heriau iechyd meddwl, gan gynnig cymorth proffesiynol, wnaeth pa mor fawr neu fach yw'r broblem.
Yn ogystal â hyn, bydd tîm Sporting Wellness hefyd yn cyflwyno sgyrsiau a gweithdai ar y safle ym Mhrifysgol Abertawe i addysgu ein hysgolheigion am iechyd meddwl a lles emosiynol cadarnhaol, yn ogystal â chydweithio â ni ar ymgyrchoedd cynyddu ymwybyddiaeth drwy gydol y flwyddyn.
"Mae ein perthynas newydd â Chwaraeon Abertawe yn gam sylweddol arall ymlaen wrth sicrhau bod cynifer o athletwyr cynrychioladol yn y DU â mynediad at gymorth iechyd meddwl a lles proffesiynol. Gall blynyddoedd athletwr yn y brifysgol fod yn amser heriol o gydbwyso bywyd a chwaraeon. Mae sicrhau mynediad at wasanaethau proffesiynol yn hanfodol ar gyfer y grŵp demograffig hwn ac rydym ni'n hynod ddiolchgar am agwedd ragweithiol Chwaraeon Abertawe wrth ymdrechu i sicrhau bod y darpariaethau gorau posib ar waith ar gyfer eu hysgolheigion" - Callum Lea, Sefydlydd a Phrif Weithredwr - Sporting Wellness
“Rydym ni'n edrych ymlaen at gynnig mynediad dydd a nos at gymorth iechyd meddwl arbenigol i holl ysgolheigion chwaraeon Prifysgol Abertawe. Yn Chwaraeon Abertawe, rydym ni'n gwerthfawrogi pa mor heriol y gall cydbwyso astudiaethau academaidd a gyrfa chwaraeon fod. Mae'r pecyn cymorth iechyd meddwl a lles cyfrinachol hwn yn ychwanegiad gwerthfawr at y rhaglen bresennol o gymorth sydd ar gael i'n hysgolheigion, ac rydym ni'n hynod falch o weithio gyda Sporting Wellness i helpu ein hathletwyr sy'n fyfyrwyr i flaenoriaethu eu hiechyd meddwl a'u lles.” - Verity Cook, Swyddog Cymorth Athletwyr – Prifysgol Abertawe
Mae'n gyffro i ni allu cyflwyno'r cyfle newydd hwn ar y cyd â Sporting Wellness a cheisio cefnogi ein hathletwyr gorau y gallwn ni. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Sporting Wellness, gallwch edrych ar eu gwefan yma.
I gael rhagor o wybodaeth am ein cyfleoedd am ysgoloriaethau chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe, rhowch gipolwg ar ein tudalen ysgoloriaethau.