Dathlu llwyddiant chwaraeon

Yn gynharach y mis hwn, daeth myfyrwyr a staff ynghyd i ddathlu blwyddyn lwyddiannus arall ar gyfer chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe yng Ngwobrau Chwaraeon 2024, a gynhaliwyd yn Neuadd Brangwyn.

Mae noson y Gwobrau Chwaraeon yn gyfle i staff a myfyrwyr sydd wedi cymryd rhan mewn Chwaraeon Myfyrwyr yn ystod y flwyddyn academaidd hon, i ddod ynghyd i rannu llwyddiannau a dathlu gyda'i gilydd.

Mae digwyddiad eleni, a drefnwyd gan Dîm Chwaraeon Abertawe, yn dathlu cyflawniadau chwaraeon anhygoel ein myfyrwyr a'n staff ac roedd dros 400 o fyfyrwyr yn rhan o'r dathliad blynyddol.

Agorwyd y digwyddiad gan y Deon Gweithredol a'r Dirprwy Is-ganghellor, Keith Lloyd a chyflwynwyd y noson gan y sylwebydd rygbi, Jor Byrnes, a sicrhaodd fod y gynulleidfa wedi'i diddanu drwy gydol y noson. Cyflwynwyd gwobrau i'r enillwyr gan aelodau'r Uwch-dîm Arweinyddiaeth, Undeb y Myfyrwyr a thîm Chwaraeon Abertawe.

Cafwyd 12 o enillwyr, gan gynnwys:

  • Clwb Elusennol y Flwyddyn (swm uchaf fesul aelod): Rygbi Myfyrwyr Meddygol
  • Clwb Elusennol y Flwyddyn (swm uchaf yn gyffredinol): Undeb Rygbi'r Dynion
  • Clwb sydd wedi gwella fwyaf eleni: Cleddyfaeth
  • Cyfrif Cyfryngau Cymdeithasol y Flwyddyn: Tanwen Moon, Codi Hwyl
  • Tîm Varsity'r Flwyddyn: Pêl-droed Menywod
  • Chwaraewr y Flwyddyn - Gwrywaidd: Panayiotis Panaretos - Nofio
  • Chwaraewr y Flwyddyn - Benywaidd: Amy Cole, Beicio
  • Tîm y Flwyddyn: Rygbi’r Gynghrair
  • Aelod Pwyllgor y Flwyddyn: Charlotte Williams, Tenis
  • Hyfforddwr y Flwyddyn: Carlos Symes, Rygbi'r Undeb
  • Clwb y Flwyddyn: Pêl-rwyd
  • Gwobr Cydnabyddiaeth am Chwaraeon: Hayley Baker

Yn ystod y gwobrau, cafodd y gwesteion bryd o fwyd dau gwrs blasus a chystadleuaeth ddoniau ac yna'r blwch gonestrwydd enwog a rhai straeon doniol cyn symud i'r Cove i ddawnsio am weddill y noson.

Gallwch weld yr holl enillwyr ar sianel Instagram Chwaraeon Abertawe yma.

Rhannu'r stori