
Cefnogi Iechyd Meddwl yn y Gwaith Un Sesiwn ar y Tro
Yma yn Chwaraeon Abertawe, rydym yn angerddol am effaith gadarnhaol y gall chwaraeon a gweithgarwch corfforol ei chael ar iechyd meddwl a lles.
Ein nod yw cynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd blaenoriaethu lles meddwl a sut gall cymryd rhan mewn chwaraeon a ffitrwydd corfforol helpu unigolion i ymdopi ag unrhyw drafferthion sydd ganddynt.
Mae mynd i'r afael â'r brwydrau hyn yn dechrau gyda siarad amdanyn nhw, ac un o'r lleoedd pwysicaf lle mae angen siarad am hyn yw'r 'gweithle' Thema eleni, a bennwyd gan Ffederasiwn Iechyd Meddwl y Byd, yw iechyd meddwl yn y gweithle ac mae'n amlygu pwysigrwydd mynd i'r afael ag iechyd meddwl a lles yn gweithle er budd pobl, sefydliadau a chymunedau.
I sicrhau ein bod yn gofalu am ein staff, rydym yn canfod ffyrdd o'u hannog nhw i gymryd rhan mewn gweithgareddau er budd eu lles. Mae iechyd meddwl a lles wrth wraidd ein rhaglen Bod yn ACTIF. Mae'r rhaglen yn cynnig gweithgareddau rheolaidd wedi'u hamserlennu am ddim ar y campws i staff a myfyrwyr, yn ogystal â gweithgareddau oddi ar y safle gan gynnwys teithiau cerdded, syrffio a chaiacio.
Un o sesiynau mwyaf poblogaidd Bod yn ACTIF ar gyfer staff yw ioga, sy'n hysbys am ddarparu effeithiau therapiwtig, lleihau straen, lleihau pryder a helpu pobl i reoli iselder.
Mae sesiynau ioga'r rhaglen Bod yn ACTIF yn gwerthu allan yn rheolaidd, gydag aelodau staff Prifysgol Abertawe yn chwilio am rywle i anghofio am bryderon y gweithle a dod o hyd i le tawel ar gyfer eu lles. Gwnaethom sgwrsio â rhai aelodau staff i ddweud wrthym sut mae'r sesiynau hyn wedi eu helpu nhw:
"Mae'n wych cael cyfle i ymlacio ac ymestyn ganol dydd ar y campws.Rwy'n dwlu ar y sesiynau ioga yn y Sied.Mae bob amser yn rhoi egni i mi a'm helpu i ymlacio, sydd eu hangen yn ystod wythnos waith brysur. Rwyf wir eisiau parhau â hyn y flwyddyn nesaf!Mae'r amseru'n berffaith".- Marcela
"Un o'r gweithgareddau prin sy'n gwella lles staff y Brifysgol yn uniongyrchol".- Alan
"Hynod fuddiol ar gyfer rheoli straen wrth weithio (yn ogystal â gwella ffitrwydd)."- Tom
"Ffordd ragorol o sicrhau bod staff yn cael egwyl ginio, sy'n actif ac yn ffafriol er mwyn hyrwyddo lles cadarnhaol sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd staff ac mae'n wych am iechyd corfforol hefyd. Diolch Stacey a'r tîm Bod yn ACTIF, roedd angen hyn arnaf".- Menna
"Mae'n egwyl feddyliol dda yn ystod y dydd".- Andrew
Dyma rai o'r sylwadau anhygoel rydym wedi'u derbyn am sesiynau ioga Bod yn ACTIF! Dywedodd 74% o'r cyfranogwyr fod y sesiynau'n cael 10/10, gydag 87% yn dweud bod y sesiynau ioga'n 'rhagorol'.
Mae dod o hyd i'r cydbwysedd rhwng lles meddyliol a gweithio'n gallu bod yn anodd, ond rydym yn cynnig rhai awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau gwahanol sy'n gallu helpu staff a myfyrwyr i flaenoriaethu eu lles meddyliol wrth astudio neu wrth weithio:
- Ewch am dro bach yn ystod eich egwyl! Nid oes angen i hyn fod yn hir nac yn llafurus, bydd 10 munud yn berffaith os mai dyna'r amser sydd gennych!
- Ymunwch ag un o'n sesiynau ioga Bod yn ACTIF. Gallwch ymlacio ac anghofio am y gweithle - cliciwch yma i weld ein sesiynau ioga.
- Siaradwch am eich teimladau - gall hyn fod yn anodd weithiau, ond peidiwch â thanbrisio pwysigrwydd cael sgwrs. Os ydych yn agored am eich teimladau, efallai bydd yn annog eraill i wneud yr un peth! Os ydych yn cael sgwrs amser cinio, neu'n cael paned a thaith gerdded ym myd natur, mae'r sgyrsiau hyn yn bwysig i'w cael.
- Darllenwch y canllaw‘Sut i Gefnogi Iechyd Meddwl yn y Gwaith’ i gael mwy o arweiniad ar sut gallwch helpu i wella eich iechyd meddwl chi neu rywun arall yn y gwaith.
Os ydych yn cael trafferthion iechyd meddwl yn y gwaith, neu angen cael sgwrs, mae gennym sawl system gymorth yn y Brifysgol i helpu gyda hyn! Cofiwch gysylltu â ni, rydym bob amser yma i helpu a gwrando!