Ein Hatgofion Tashwedd
Dyma'r adeg honno o'r flwyddyn pan ddaw ein holl dimau chwaraeon at ei gilydd i godi arian a chefnogi'r elusen flaenllaw sy'n gwneud gwaith mor anhygoel i newid gwedd iechyd dynion - Tashwedd.
Yma yn Chwaraeon Abertawe, mae Tashwedd yn ymgyrch sy'n agos iawn at ein calonnau.
Bob blwyddyn mae ein clybiau'n cymryd rhan i gefnogi'r mudiad hwn sy'n tyfu, gyda phob camp yn cyfrannu yn ei ffordd unigryw ei hun. P'un a yw'n tyfu eu mwstas neu'n trefnu gemau elusennol yn erbyn clybiau eraill, mae clybiau Chwaraeon Abertawe yn dod at ei gilydd ym mis Tachwedd bob blwyddyn i gefnogi ei gilydd a chodi cymaint o arian ag y gallant ar gyfer yr achos anhygoel hwn.
Eleni, mae'r clybiau wedi cynnal arddangosfa ddiddorol o atgofion codi arian drwy gydol mis Tashwedd, gan gynnwys digwyddiadau rhedeg, beicio neu rwyfo, mentrau rhentu gwas a nosweithiau cwis.
Un clwb yn benodol a ragorodd ar ei darged Tashwedd oedd Titans Abertawe, a gododd £1,745 drwy ei ymdrechion codi arian amrywiol, gan gynnwys 'Rent-A-Gent' i'ch helpu yn eich gwaith beunyddiol. Clwb arall a wnaeth argraff fawr arnom gyda'i waith codi arian anhygoel yw'r tîm Lacrós, gan godi £1,938 drwy ei nosweithiau cwis tafarn a sesiynau dod â ffrind Tashwedd.
Ar 15 Tachwedd, yn ein 'Movember Triple Headline' gwnaeth gemau Hoci i Fenywod, Pêl-droed Dynion a Rygbi Dynion werthu dros 500 o docynnau raffl ar gyfer gwobrau anhygoel , gyda'r holl arian yn cael ei roi i achos Tashwedd.
Cynhaliwyd y raffl yn nigwyddiad Come Dancing Abertawe ar 23 Tachwedd, lle cystadlodd y myfyrwyr yn erbyn ei gilydd i ennill y teitl a chodi arian yn unigol ar gyfer achos Tashwedd.
I orffen y mis, daeth myfyrwyr o bob rhan o'r Brifysgol at ei gilydd i fynd yn y môr mewn gwisg ffansi - a oedd yn hwyl ond braidd yn oer - ar draeth Caswell!
Y cyfanswm presennol a godwyd gan Brifysgol Abertawe yw £28,306, ac mae'n cynyddu o hyd! Bob blwyddyn mae'r timau yn Chwaraeon Abertawe yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd newydd a mwy creadigol o godi arian ar gyfer achos Tashwedd, ac edrychwn ymlaen at weld pa ddigwyddiadau codi arian newydd y byddant yn eu cynnig nesaf!
Ymdrechion codi arian gan rai o'n clybiau chwaraeon:
- Y tîm nofio - £250
- Rhwyfo - £282
- Pêl-fasged - £161
- Hoci - £205 (£115 o'r gêm hoci fawr)
- Pêl-droed – £695
- Beicio ar y Ffordd - £100
- Triathlon - £50
- Tenis - £30
- Lacrós - £1,983
- Rygbi Tawe - £398
- Awyr - £107
- Rygbi’r Gynghrair - £116
- Pêl-fasged - £161