
Fraser yn cynrychioli PF
Aeth nofiwr o Abertawe a myfyriwr peirianneg sifil, Lewis Fraser i Bencampwriaethau Nofio Ewropeaidd dan 23 oed yn Nulyn yr haf hwn fel rhan o dîm o 18 cryf o PF.
Daeth y pencampwriaethau â thros 400 o nofwyr ynghyd rhwng 19 a 23 oed o 26 gwlad ar gyfer digwyddiad agoriadol yng Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Genedlaethol Dulyn rhwng 11 ac 13 Awst.
Bu gan Lewis rôl hollbwysig yn sicrhau lôn yn ffeinal y ras gyfnewid dull rhydd cymysg 4 x 100m lle enillodd tîm PF fedal efydd.
Llongyfarchiadau enfawr i Lewis a'r tîm cyfan!
Mae rhagor o wybodaeth am y tîm yma
Mae mwy o wybodaeth am ein rhaglen nofio yma.