Nansi Kuti'n ennill yn nhwrnamaint y Cwpan Celtaidd

Mae Prifysgol Abertawe'n falch o ddathlu llwyddiant anhygoel Nansi Kuti, ysgolhaig Chwaraeon Abertawe a myfyriwr Meddygaeth i Raddedigion (GEM) blwyddyn gyntaf, a gafodd ei dewis i gynrychioli tîm pêl-rwyd Plu Cymru yn nhwrnamaint cyntaf y Cwpan Celtaidd. Roedd Plu Cymru yn fuddugol, gan gipio teitl Pencampwyr y Cwpan Celtaidd ar ôl perfformiad ardderchog drwy gydol y gystadleuaeth.

Dangosodd y Plu oruchafiaeth, gan ennill pob un o'r pedair gêm, gan gynnwys ennill yn erbyn Yr Alban, Gogledd Iwerddon a Zimbabwe. Daethant â'u rhediad rhyfeddol i glo gan ennill yn erbyn y Scottish Thistles 59-47 yn y rownd derfynol.

Taith Nansi i'r Cwpan Celtaidd

Mae Nansi wedi bod yn angerddol am chwaraeon o oedran ifanc, gan ffynnu mewn pêl-rwyd a thenis cystadleuol. Yn 16 oed, penderfynodd canolbwyntio ei hymdrechion ar bêl-rwyd, sydd wedi ei rhoi ar ben ffordd i uchelfannau rhyfeddol yn y gamp.

Eleni, teithiodd Nansi i Glasgow gyda'i chyd-chwaraewyr, yn benderfynol o guro eu gelynion hirsefydlog. Cyn y gystadleuaeth, rhannodd ei chyffro am gynrychioli Cymru unwaith eto:

"Rwy'n llawn cyffro i gael y cyfle i gynrychioli'r Plu unwaith eto am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd 2023. Ar ôl peidio cael fy newis am y gyfres brawf yn erbyn Uganda ym mis Ionawr 2024, mae'n wych cael y cyfle i roi'r ffrog goch ymlaen eto."

Enillodd Nansi ei chap cyntaf i Gymru yn ystod Cwpan Pêl-rwyd y Byd 2023 yn Cape Town, De Affrica, gan chwarae yn y gêm agoriadol yn erbyn y genedl a oedd yn eu croesawu - a hynny’n dyst i'w thalent a'i hymrwymiad anhygoel.

Myfyrio ar Lwyddiant

Yn dilyn buddugoliaeth ddiweddar y Cwpan Celtaidd, myfyriodd Nansi ar ymdrech y tîm:

"Ein prif nod oedd dod â'r tlws adref fel enillwyr cyntaf y Cwpan Celtaidd! Ein huchelgais yw parhau i ddringo tablau'r byd, ac fel rhan o hyn sefydlu ein hunain mewn cystadlaethau fel yr un hon. Roedd hi'n wych teimlo bod misoedd o wersylloedd a hyfforddiant wedi dwyn ffrwyth. Mae'r rhan fwyaf ohonon ni'n cymryd rhan ochr yn ochr â gwaith amser llawn neu addysg. Roedd yn ffordd wych o orffen y flwyddyn, ac rydyn ni i gyd yn llawn cyffro i weld beth gallwn ni ei wneud fel tîm."

Am y Cwpan Celtaidd

Daeth y Cwpan Celtaidd, a gynhaliwyd o 7 tan 10 Tachwedd, â thimau pêl-rwyd rhyngwladol ynghyd am arddangosiad gwefreiddiol o chwaraeon. Cystadlodd Plu Cymru yn erbyn y Northern Ireland Warriors, y Zimbabwe Gems a'r Scottish Thistles, gan ddod i glo mewn rownd derfynol fythgofiadwy. Nododd eleni ymgais gyntaf y gystadleuaeth, gyda’r gobaith o ehangu cyfranogiad yn y dyfodol.

Dathlu Rhagoriaeth

Mae cyflawniad Nansi'n dyst i'w hymrwymiad ar y cwrt ac oddi arno, wrth iddi gydbwyso anghenion rhaglen feddygol ddwys â phêl-rwyd lefel elît. Mae Prifysgol Abertawe'n hynod falch o Nansi ac yn edrych ymlaen at ei chefnogi wrth iddi barhau ar ei thaith at lwyddiant.

I ddysgu mwy am ysgolheigion chwaraeon Abertawe a'u cyflawniadau, cliciwch yma. Am ragor o wybodaeth am ein rhaglen ysgoloriaeth, cliciwch yma.

Clod ffotograffiaeth: Craig Watson Photography

Rhannu'r stori