
Rhaglen Bod yn ACTIF Prifysgol Abertawe yn ennill gwobr genedlaethol am ragoriaeth mewn chwaraeon myfyrwyr
Rydym wrth ein boddau’n rhannu, ar ôl enwebiad llwyddiannus a chyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr hon, fod rhaglen Bod yn ACTIF Prifysgol Abertawe wedi'i henwi'n enillydd Gwobr Rhagoriaeth mewn Profiad Chwaraeon Myfyrwyr yng Ngwobrau CUBO 2025, a gynhaliwyd yn Newcastle ar 11 Mehefin.
Mae Gwobrau CUBO yn arddangos ac yn dathlu arfer gorau mewn gwasanaethau masnachol a gwasanaethau campws, ac mae'r wobr benodol hon yn canolbwyntio ar fentrau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiad myfyrwyr o chwaraeon mewn prifysgolion ac sy’n dangos mwy o gyfranogiad wrth hyrwyddo iechyd a lles.
Mae'r wobr fawreddog hon yn cydnabod mentrau arloesol sy'n trawsnewid chwaraeon myfyrwyr drwy gynyddu cyfranogiad, gwella lles, a hybu ymgysylltiad cynhwysol.
Ers ei lansio yn 2022, mae Bod yn ACTIF wedi cael effaith barhaol ar fywyd y campws:
- Mae bron 6,000 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan
- Dros 1,700 o sesiynau am ddim a chyda chymhorthdal sylweddol wedi'u cyflwyno
- Mwy na 26,000 o bobl yn bresennol
Gan gynnig gweithgareddau cynhwysol, anghystadleuol, mae'r rhaglen yn blaenoriaethu lles meddyliol, meithrin cymunedau, a hygyrchedd. Mae wedi bod yn arbennig o effeithiol wrth gyrraedd grwpiau penodol o fyfyrwyr gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol, ôl-raddedig, niwrowahanol, a benywaidd.
Mae menter Bod yn YR AWYR AGORED y rhaglen yn dathlu lleoliad unigryw Abertawe—gan gysylltu myfyrwyr â'r awyr agored trwy weithgareddau fel syrffio, heicio, cerdded ceunentydd a phadlfyrddio. Mae hyn wedi helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd, hyrwyddo iechyd meddwl, a lleihau rhwystrau i chwaraeon.
Meddai Shana Thomas, rheolwr rhaglen Bod yn ACTIF:
“Daw’r llwyddiant hwn yn dilyn tair blynedd o adeiladu rhaglen gyda’n myfyrwyr ac ar eu cyfer nhw.” Rydym wedi canolbwyntio ar ddefnyddio ein hamgylchedd naturiol anhygoel yn Abertawe a'r ardaloedd cyfagos i roi profiadau cadarnhaol i fyfyrwyr, gan eu tynnu i ffwrdd o'u hastudiaethau a’u galluogi i fod gydag eraill mewn amgylchedd hamddenol a chroesawgar.
Mae Bod yn YR AWYR AGORED yn helpu i chwalu'r rhwystrau y mae ein myfyrwyr yn eu hwynebu pan fyddant yn dechrau bywyd prifysgol am y tro cyntaf trwy roi cyfle iddynt deimlo'n llai ynysig, cwrdd â phobl newydd a gobeithio gwneud ffrindiau newydd.Heb ein myfyrwyr blaengar, ni fyddai Bod yn ACTIF nac ein rhaglen awyr agored yn digwydd.”
Wrth wraidd y rhaglen mae tîm ymroddedig o staff Chwaraeon Prifysgol Abertawe a Myfyrwyr Actifyddion angerddol sy'n cynnal sesiynau wythnosol ac yn helpu i ddatblygu diwylliant cynhwysol chwaraeon myfyrwyr.
Mae'r wobr hon yn garreg filltir falch i'r Brifysgol ac yn dyst i'r angerdd a'r gwaith caled y tu ôl i Bod yn ACTIF. Nid yw'r daith yn dod i ben yma—rydym yn llawn cyffro am yr hyn sydd nesaf.
Dysgwch fwy am y rhaglen a chofrestrwch ar gyfer sesiwn: https://www.swansea.ac.uk/cy/bod-yn-actif/