Mae Hayley Baker yn arwain y ffordd!
Eleni, cynhaliwyd cynhadledd BUCS ym Mhrifysgol Warwick rhwng 16 ac 18 Gorffennaf, lle daeth adrannau chwaraeon o bob cwr o'r DU ynghyd i ddathlu popeth sy'n ymwneud â chwaraeon yn y Brifysgol.
Roedd cynhadledd BUCS yn cynnwys sesiynau ymneilltuo diddorol, prif siaradwyr, fforymau deinamig a dychweliad y noson Gwobrau BUCS flynyddol ar y nos Iau.
Eleni, am y tro cyntaf yn hanes Prifysgol Abertawe, enwebwyd aelod o'n staff am y wobr ‘Hyfforddwr y Flwyddyn’ gan gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr honno. Mae Hayley Baker, sef ein hyfforddwr nofio perfformiad uchel, wedi parhau i ddangos pam mae'n mynd i Gemau Olympaidd Paris fel hyfforddwr Tîm Prydain Fawr eleni, wrth iddi ragori yn y maes ac ennill gwobr Hyfforddwr y Flwyddyn yng Ngwobrau BUCS 2024.
Mae Hayley wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl yn ei rôl hyfforddi, ar lefel ryngwladol gyda thîm Campau Dŵr Prydain Fawr ac ar lefel llawr gwlad gyda Thîm Nofio Prifysgol Abertawe.
Mae cael ei dethol fel yr hyfforddwr ar gyfer nofio marathon yng Ngemau Olympaidd Paris 2024 yn gyflawniad sylweddol i Hayley. Yn ogystal â bod yn ail Gemau Olympaidd yn olynol i Hayley, wedi iddi gael ei henwebu ar gyfer Tîm Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn 2020, hi yw'r hyfforddwr nofio cyntaf erioed o Gymru i gyflawni'r gamp anhygoel hon. Mae'r llwyddiant yn amlygu ymroddiad Hayley a'i harbenigedd yn y gamp hon.
Yn dilyn postiad BUCS ar y cyfryngau cymdeithasol, meddai cynrychiolydd, “(enillydd gwobr Hyfforddwr y Flwyddyn) wedi'i dyfarnu i'r hyfforddwr nofio gwych sydd wedi bod yn y Gemau Olympaidd ddwywaith, Hayley Baker, prif hyfforddwr nofio Prifysgol Abertawe. Mae ei hymroddiad a'u dylanwad ar fyfyrwyr yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r pwll, gan eu datblygu'n unigolion amryddawn sydd â sgiliau nofio yn ogystal â sgiliau bywyd hanfodol, gan alluogi athletwyr i berfformio ar lwyfan y byd.”
Cawsom sgwrs sydyn â Hayley i glywed ei barn,
"Mae'n anrhydedd mawr derbyn y wobr hon gan fod BUCS yn cynnwys cynifer o hyfforddwyr o ystod enfawr o chwaraeon, felly roedd cael fy enwebu yn anhygoel, ond roedd ennill yn syndod annisgwyl. Mae'n dangos bod y gwaith caled gen i, y tîm hyfforddi a staff Chwaraeon Abertawe yn dwyn ffrwyth. Rwy'n falch iawn o'r holl dîm gan gynnwys y nofwyr, gan eu bod yn fy nghefnogi ac yn fy ngalluogi i barhau â’m hymdrechion."
Llongyfarchiadau enfawr i Hayley a'r holl waith anhygoel mae hi wedi ei wneud ar gyfer y rhaglen nofio eleni! Dyma wobr haeddiannol iawn.
Am ragor o wybodaeth am y rhaglen nofio y mae Hayley yn hyfforddi arni, cliciwch yma.