Myfyrwyr Prifysgol Abertawe i gynrychioli Cymru ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad
Dyma adeg y flwyddyn eto pan rydym ni'n dod at ein gilydd fel cenedl ac yn cefnogi ein tîm ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Wrth i gêm gyntaf y Twrnament Dan 20 oed, Cymru yn erbyn Iwerddon, brysur agosáu, rydym yn falch o gyhoeddi bod pump o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe wedi'u dethol i gynrychioli Cymru yng ngêm Dan 20 oed y Chwe Gwlad 2023.
Y pum myfyriwr fydd yn cynrychioli Cymru ar y cae yw;
- Harri Williams – Scarlets
- Issac Young – Scarlets
- Llien Morgan – Y Gweilch
- Tom Florence – Y Gweilch
- Kian Abraham - Scarlets
Mae'r chwaraewyr hyn wedi bod yn rhan o'r gwersyll hyfforddi ers pedair wythnos yn arwain at eu gêm gyntaf yn y gystadleuaeth. Maen nhw wedi dysgu tactegau newydd ar gyfer y gêm, gan ddod ynghyd â chwaraewyr clybiau gwahanol mewn cyfnod byr ac maen nhw wedi bod yn hyfforddi hyd at bedair gwaith yr wythnos, a'r cyfan wrth barhau â'u hastudiaethau ym Mhrifysgol Abertawe.
Dyma beth oedd gan rai o'r chwaraewyr i'w ddweud am y profiad yma:
Harri Williams:
"Dwi'n ddigon ffodus i gystadlu yn yr ymgyrch yma am y drydedd flwyddyn nawr a dyw'r teimlad o gynrychioli eich gwlad ddim yn newid. Mae'n anrhydedd mawr i fod yn rhan o'r tîm cenedlaethol ac yn rhywbeth dwi'n falch iawn ohono.
Yn arwain at yr ymgyrch, mae'r hyfforddiant wedi bod yn anodd, ac mae llawer o ddysgu wedi digwydd mewn cyfnod byr. Rydym yn dod at ein gilydd dim ond pedair wythnos cyn ein gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad. Mae llawer o ddysgu gyda ni i'w wneud ond hefyd mae'n rhaid i ni gymysgu â bechgyn newydd o ranbarthau gwahanol a dod i arfer â chwarae gyda'n gilydd yn y cyfnod byr hwn.
Ar wahân i'r bencampwriaeth dan 20 oed, dwi'n astudio gradd amser llawn mewn marchnata wrth chwarae i'r Scarlets yn amser llawn hefyd, er y gall rheoli hyn i gyd fod yn llawer o straen os oes arholiadau, dyddiadau cau, hyfforddiant a pharatoi am gemau. Dwi'n ffodus iawn am gefnogaeth rhaglen TASS a'r grŵp perfformiad uchel lle maen nhw'n cefnogi ac yn aml mewn cysylltiad i helpu mewn unrhyw ffordd bosibl er mwyn fy nghadw ar y trywydd iawn ar y cae ac yn yr ystafell ddosbarth."
Tomos Florence:
"Mae'n anrhydedd mawr cael dy ddewis mewn unrhyw dîm i gynrychioli dy wlad, gobeithio y galla i wneud y gorau ohono a dysgu llawer drwy'r ymgyrch.
Dwi wedi cael fy anafu am y 6 wythnos diwethaf felly dwi wedi gwneud fy adsefydlu gyda'r Gweilch. Dwi'n gobeithio dychwelyd ar gyfer y gêm gyntaf. Mae'r bechgyn yn edrych yn dda wrth hyfforddi ac mae'r gwaith paratoi yn mynd yn dda.
Mae cydbwyso hyfforddiant ac arholiadau yn heriol ond mae Undeb Rygbi Cymru/y Gweilch a'r darlithwyr yn deall ac yn helpu'n fawr i sicrhau dy fod yn rheoli'r ddau yn dda."
Llien Morgan:
"Mae'r profiad yn golygu llawer iawn i mi. Mae cael cyfle i gynrychioli fy ngwlad mewn camp dwi'n ei charu ac wedi chwarae ers i mi fod yn ifanc yn fraint fawr.
Mae'r gwersyll hyfforddi wedi bod yn anodd wrth arwain at y Chwe Gwlad. Dyw hyfforddi 4 gwaith yr wythnos ddim yn hawdd yn sicr, ond mae 'na dîm da a staff hyfforddi gwych o 'nghwmpas sy'n gysur ac sy' hefyd yn fy helpu i berfformio hyd eithaf fy ngallu.
Dwi wedi bod yn cydbwyso'r brifysgol a rygbi drwy wneud yn siŵr fy mod i'n cadw ar ben fy ngwaith a bodloni'r dyddiadau cau ar gyfer fy aseiniadau. Hefyd, dwi'n cael llawer o gefnogaeth gan y Brifysgol os ydw i erioed yn ei chael hi'n anodd ac mae hyn yn helpu pan fydd hyfforddiant yn mynd yn ddwys."
Rydym yn falch dros ben o gael Harri, Isaac, Llien, Tom a Kian yn cynrychioli Cymru yn y Chwe Gwlad dan 20 oed, ac rydym yn teimlo anrhydedd cael eu cefnogi ar eu taith 6 gwlad! Rydym ni'n edrych ymlaen yn fawr at weld y bois hyn yn mynd i'r cae wrth gynrychioli eu gwlad, ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw.