Nathan yn mynd i Tsieina
Llongyfarchiadau enfawr i'r ysgolhaig nofio, Nathan Chan a fu'n cynrychioli Hong Kong yng Ngemau Prifysgolion y Byd FISU yn Chengdu ym mis Gorffennaf.
Roedd y gemau'n gyfle anhygoel i athletwyr ifanc arddangos eu doniau mewn dathliad unigryw o chwaraeon prifysgol rhyngwladol, gan ddod â miloedd o fyfyrwyr-athletwyr ar draws y byd ynghyd ar gyfer y digwyddiad aml-gamp uchel ei fri.
Roedd Nathan, sy'n fyfyriwr blwyddyn olaf sy'n astudio economeg a chyllid ym Mhrifysgol Abertawe, wrth ei fodd yn cael cynrychioli ei wlad yn Tsiena yr haf hwn a bellach yn edrych ymlaen at gwrs byr BUCS.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am gyflwyno cais am ysgoloriaeth chwaraeon yma.
Mae Nathan yn fyfyriwr blwyddyn olaf sy'n astudio Economeg a Chyllid.
Ei ddigwyddiad nesaf fydd cwrs byr BUCS.