Rheolwr Chwaraeon Myfyrwyr yn Creu Hanes Hoci i Gymru
Gwnaeth Sadie Mellalieu, Rheolwr Chwaraeon Myfyrwyr Prifysgol Abertawe ei hun a chwaraewr Hoci Meistri hanes y mis hwn, wrth iddi ennill y medal Cwpan y Byd cyntaf i unrhyw dîm hoci o Gymru ei ennill, yn ddynion neu'n ferched.
Cynhaliwyd Cwpan Hoci Meistri'r Byd i Chwaraewyr Dros 35 oed a Thros 40 oed yng Nghanolfan Hoci Nottingham rhwng 12 Awst a 21 Awst 2022.
Cymerodd timau dynion a merched o bob cwr o'r byd ran yn yr achlysur hoci arbennig 10 diwrnod o hyd. Cymerodd Sadie a thîm Cymru ran yn y gystadleuaeth i ferched dros 35 oed, a gafodd ddechrau cyffrous, wrth i'r tîm golli 3-1 mewn gornest agos i Loegr, sef y tîm a enillodd yn y pen draw. Aeth y tîm ati wedyn ymlaen i guro India, Ffrainc, yr Alban a'r Ariannin ar eu taith tuag at gêm y fedal efydd; lle llwyddodd i guro'r Iseldiroedd 1-0 i ennill y fedal efydd hanesyddol.
Roedd Sadie, sydd wedi bod yn rheoli Chwaraeon Myfyrwyr yn y Brifysgol ers bron dros deg mlynedd ac sy'n frwdfrydig iawn ynghylch chwaraeon clwb ym maes Addysg Uwch, wrth ei bodd yn ennill medal. Dywedodd:
“Roedd cystadlu ar ran Cymru yn nigwyddiad Cwpan Hoci Meistri'r Byd yn brofiad anhygoel i mi; profiad na wnaf fyth ei anghofio.
“Rwyf wedi mwynhau pob munud yn chwarae hoci gydag aelodau fy nhîm. Rydym am anelu'n uwch nawr, gan ganolbwyntio nesaf ar Bencampwriaethau Ewrop a gynhelir yn Southgate, Llundain y flwyddyn nesaf.
“Rydym yn hyderus iawn y gallwn ennill medal arall gan greu mwy o hanes hoci i Gymru.”
Taith Tîm Cymru hyd at y fedal Efydd:
- Colli 1-3
- Ennill 16-0
- Ennill 6-0
- Ennill 3-0
- Ennill 3-1
- Gêm y Fedal Efydd yn erbyn yr Iseldiroedd. Ennill 1-0.
Gellir gweld manylion llawn adroddiadau'r gemau a'r tablau safle yma.