Rydym yn cydweithio ag Asiantaeth y Deyrnas Unedig i Atal Camddefnyddio Cyffuriau mewn Chwaraeon (UKAD) ar gyfer Wythnos Chwaraeon Glân eleni, 13 - 17 Mai.

Mae Prifysgol Abertawe'n falch o ailddatgan ein hymrwymiad i chwaraeon glân
trwy gefnogi ymgyrch Wythnos Chwaraeon Glân UKAD rhwng 13 ac 17 Mai. 
 
Wythnos Chwaraeon Glân yw wythnos ymwybyddiaeth genedlaethol UKAD i hyrwyddo mentrau chwaraeon glân, addysg ac atal dopio gyda chwaraeon ar draws y Deyrnas Unedig.
 
Thema Wythnos Chwaraeon Glân eleni yw "Journey to the Podium". Trwy gydol yr wythnos, bydd UKAD yn arddangos pwysigrwydd y daith chwaraeon glân trwy lygaid athletwyr a'r gymuned chwaraeon elît. Dylai atal-dopio fod yn rhan allweddol o daith pob athletwr a ac aelod staff cefnogi - ni ddylai fod yn ôl-ystyriaeth. 
 
Mae chwaraeon glân yn rhan allweddol o daith ein hathletwyr i'r brig / mewn chwaraeon proffesiynol. Mae'n waith hyd oes, sy’n gofyn am ymrwymiad a rhwydwaith o gymorth i helpu athletwyr i berfformio ar y brig. Gall yr ymdrech hon gael ei dinistrio mewn eiliad o ganlyniad i ddopio. Mae creu diwylliant chwaraeon glân yn hanfodol i iechyd a lles ein hathletwyr ac uniondeb ein chwaraeon perfformiad uchel.
 
Mae gan bawb gyfrifoldeb i gadw chwaraeon yn lân, i godi ymwybyddiaeth o atal dopio ac i ddathlu llwyddiannau athletwyr - trwy waith caled, dyfalbarhad a chystadlu'n lân.  


Rydym yn annog unrhyw un yn ein cymuned chwaraeon sydd eisiau dysgu mwy am atal dopio i gofrestru am Hyb Chwaraeon Glân UKAD lle mae yna gyrsiau addysg am ddim ar gyfer athletwyr, myfyrwyr, hyfforddwyr ac ymarferwyr.
 
Dilynwch @ukantidoping ar y cyfryngau cymdeithasol i weld ystod o gynnwys addysgol a chyffrous trwy gydol yr wythnos. Am ragor o wybodaeth am fenter Wythnos Chwaraeon Glân UKAD cliciwch yma.

Rhannu'r stori