Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymrwymedig i wella ein Hystâd a chefnogi profiad myfyrwyr y Brifysgol, dysgu ac addysgu, uchelgeisiau ymchwil ac arloesi, yn ogystal ag amcanion cynaliadwyedd.
Mae'r mentrau presennol i ddatblygu'r campysau'n cynnwys:
- Ailddatblygu mannau cymdeithasol ac academaidd i gyfrannu at gymuned ffyniannus o fyfyrwyr
- Buddsoddi mewn chwaraeon fel y gallwn arwain y ffordd o ran chwaraeon addysg uwch, iechyd a lles.
- Atgyfnerthu ein mannau awyr agored arobryn.
- Diogelu ein hanes a'n treftadaeth – mae llawer o'r adeiladau ar Gampws Parc Singleton yn rhestredig, gan gynnwys Tŷ Fulton, Llyfrgell 1937, Adeilad Wallace ac Abaty Singleton.
- Gwaith adnewyddu parhaus i sicrhau y gall pawb fwynhau ein campysau, boed hwy’n fyfyrwyr, yn aelodau staff neu'n ymwelwyr.
Archwiliwch rai o'n datblygiadau presennol allweddol: