Prosesydd cyfrifiadur gyda delwedd o ymennydd yn y canol

Croeso i Fframwaith Deallusrwydd Artiffisial Prifysgol Abertawe - platfform integredig ledled y sefydliad a fydd yn gweithredu fel hwb canolog o wybodaeth, cymorth, ac arloesedd i'n cymuned academaidd amrywiol. Mae'r fframwaith hwn wedi cael ei ddylunio i sicrhau bod gan fyfyrwyr, ymchwilwyr, athrawon a staff y gwasanaethau proffesiynol yr holl wybodaeth ac adnoddau sydd eu hangen arnynt i archwilio, deall a chymhwyso deallusrwydd artiffisial yn gyfrifol ar draws yr holl ddisgyblaethau.

Mae'r Fframwaith wedi cael ei strwythuro gan ddefnyddio'r categorïau Defnydd Cyfrifol a Moesegol, Llythrennedd Craidd Deallusrwydd Artiffisial a Llythrennedd Deallusrwydd Artiffisial sy'n Benodol i'r Rôl ac mae pob categori yn cynnwys set o gymwyseddau tair haen sydd wedi'u dylunio i ddarparu meincnod i ddefnyddwyr hunan-asesu a datblygu eu gwybodaeth a'u defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn eu rôl benodol. Mae pob set o gymwyseddau wedi'i chefnogi gan adnoddau sydd wedi'u dylunio a'u creu gan y Brifysgol a rhanddeiliaid blaenllaw ym maes Deallusrwydd Artiffisial mewn Addysg, gan gynnwys JISC a Microsoft.

Cliciwch ar y teitl perthnasol i'ch rôl er mwyn dechrau archwilio'r Fframwaith.