| Proffil Rôl Staff Addysgu - Dolenni Cyflym |
|---|
| Defnydd Cyfrifol a Moesegol |
| Llythrennedd Craidd Deallusrwydd Artiffisial |
| Llythrennedd Deallusrwydd Artiffisial sy'n benodol i'r rôl |
Wrth i ddeallusrwydd artiffisial barhau i ail-lunio tirwedd addysg uwch, mae'n hanfodol fod gan staff addysgu nid yn unig ddealltwriaeth o'r technolegau trawsnewidiol hyn ond hefyd yr hyder i'w hintegreiddio yn ystyrlon yn eu hymarfer.
Mae'r adran hon o'r Fframwaith Deallusrwydd Artiffisial wedi cael ei dylunio'n benodol ar gyfer addysgwyr - gan ddarparu arweiniad ymarferol, ystyriaethau moesegol, a strategaeth addysgegol i'ch helpu i lywio a defnyddio Deallusrwydd Artiffisial yn eich gwaith addysgu.
Gall pob cymhwysedd gael ei ehangu i gael mynediad at gynnydd ar draws y tair haen, Sylfaenol - Sefydledig - Arloesol, ynghyd ag adnoddau defnyddiol gan y Brifysgol a sefydliadau allanol sy'n cefnogi datblygiad sgiliau, gwybodaeth a phrofiad yn y cymhwysedd hwnnw.
Defnydd Cyfrifol a Moesegol
Mae'r adran hon yn rhoi arweiniad ar ystyriaethau moesegol, preifatrwydd data, tryloywder, a phwysigrwydd goruchwyliaeth gan bobl wrth ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial wrth addysgu.
Mae'n annog myfyrio beirniadol ar sut y mae Deallusrwydd Artiffisial yn effeithio ar ddysgu myfyrwyr, asesu, a thegwch, ac mae'n cynnig strategaethau ymarferol i'ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus ac egwyddorol o ran eich defnydd o Ddeallusrwydd Artiffisial.
Llythrennedd Craidd A.I.
Wrth i ddeallusrwydd artiffisial ddod yn gynyddol annatod i addysg, mae datblygu llythrennedd craidd AI yn hanfodol i staff addysgu.
Mae adeiladu’r wybodaeth sylfaenol hon yn galluogi addysgwyr i wneud penderfyniadau gwybodus am ddefnyddio AI yn yr ystafell ddosbarth, cefnogi myfyrwyr i lywio AI yn gyfrifol, a chyfrannu at amgylchedd dysgu sy’n barod ar gyfer y dyfodol.
Llythrennedd A.I. sy'n Benodol i'r Rôl
Wrth i AI barhau i ddylanwadu ar addysg, mae disgwyliadau cynyddol ar staff addysgu i ddatblygu cymwyseddau penodol i’r rôl sy’n mynd y tu hwnt i ymwybyddiaeth gyffredinol.
Mae hyn yn cynnwys dylunio asesiadau sy’n cynnal uniondeb academaidd mewn byd sy’n cael ei dylanwadu gan AI, archwilio sut y gellir integreiddio AI yn ystyrlon i feysydd pwnc penodol, a defnyddio AI i wella profiadau addysgu a dysgu.











