Datganiad am Hygyrchedd
Mae'r datganiad hwn am hygyrchedd yn berthnasol i https://canvas.swan.ac.uk
Mae Canvas wedi cael ei ddatblygu gan Instructure ac fe'i defnyddir gan Brifysgol Abertawe. Rydym am i gynifer o bobl â phosib gael y cyfle i ddefnyddio'r wefan canvas.swan.ac.uk, gan gael croeso a phrofiad gwobrwyol. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:
- Chwyddo i mewn hyd at 200% heb i destun lifo oddi ar y sgrîn.
- Neidio i brif gynnwys y wefan.
- Addasu'r bylchiadau mewn testun heb effeithio ar y drefn na'r defnyddioldeb.
- Llywio'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw canvas.swan.ac.uk?
Mae system rheoli dysgu Canvas gan Instructure wedi cael ei gwerthuso'n allanol a chan ein harbenigwr mewnol ac mae'r ddau'n ardystio bod canvas.swan.ac.uk yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 WCAG (Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We).
Rydym yn gwybod nad yw rhannau o canvas.swan.ac.uk mor hygyrch ag y dylent fod.
- Nid oes testun priodol yn lle pob llun.
- Nid yw rhai lluniau wedi cael eu labelu'n gywir mewn modd ystyrlon neu addurnol.
- Nid yw'r holl destun a theclynnau rheoli'n bodloni canllawiau cyferbynnedd.
- Defnyddir penawdau'n anghywir weithiau a gall hynny effeithio ar y defnydd o raglenni darllen sgriniau.
- Nid yw defnyddwyr rhaglenni darllen sgriniau'n cael rhybuddion am brofion neu gwisiau â chyfyngiadau amser heb ffocws.
- Nid yw defnyddwyr rhaglenni darllen sgriniau'n cael negeseuon gwall mor fanwl â phobl sy'n defnyddio eu golwg mewn cwisiau.
- Mae gan fframiau mewnol ddisgrifiad generig, felly nid ydynt yn rhoi digon o wybodaeth am gynnwys.
Efallai nad yw nifer o’r ategion trydydd parti sy'n galluogi adnoddau dysgu i ryngweithredu (LTI) a ddefnyddir gyda Canvas mor hygyrch â’r cymhwysiad Canvas a brofwyd at ddibenion y datganiad hwn. Gweler yr adran adnoddau rhyngweithiol i gael manylion llawn.
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth am canvas.swan.ac.uk arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille, gallwch gysylltu â'n Canolfan Drawsgrifio:
E-bost: braille@abertawe.ac.uk
Twitter: @SUTranscription
Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe, Adeilad Amy Dillwyn, Prifysgol Abertawe, Parc Singleton, Abertawe SA2 8PP, y Deyrnas Unedig
Sut i ddod o hyd i’r Ganolfan Drawsgrifio: Canolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe – Prifysgol Abertawe
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb i chi ymhen saith niwrnod.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda canvas.swan.ac.uk
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd system rheoli dysgu Canvas. Os ydych yn canfod unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd:
E-bost: ITservicedesk@swansea.ac.uk neu Ffoniwch ni +44 01792 60(4000)
Gweithdrefn orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) Cyrff y Sector Cyhoeddus 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS)
Cysylltwch â ni drwy ffonio neu ymweld â ni
Nod y Brifysgol yw darparu gwasanaethau gwybodaeth a chyfarwyddyd proffesiynol ar gyfer myfyrwyr anabl a myfyrwyr ag anghenion arbennig a/neu gyflyrau meddygol. Gallwn roi cymorth i chi os hoffech ymweld â ni neu ein ffonio.
Cysylltwch â’r Gwasanaeth Anabledd:
Ffôn: +44 (0)1792 60 6617
E-bost: disability@abertawe.ac.uk
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan
Mae Prifysgol Abertawe’n ymrwymedig i wneud ei holl wefannau'n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) Cyrff y Sector Cyhoeddus 2018.
Statws cydymffurfiaeth
Mae canvas.swan.ac.uk yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 y Canllawiau am Hygyrchedd Cynnwys y We, oherwydd yr achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i gynnal lefel AA o hygyrchedd. Mae'r wybodaeth ganlynol yn esbonio unrhyw rannau o Canvas nad ydynt yn cydymffurfio, hyd y gwyddom, a'r hyn rydym yn ei wneud am y peth.
Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch oherwydd y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau hygyrchedd
Gwerthusodd yr archwiliad mewnol sampl o'r cynnwys yn Canvas ac nid oedd y meini prawf canlynol yn cydymffurfio.
Maen prawf llwyddiant fersiwn 2.1 WCAG: 1.1.1 Cynnwys nad yw'n destun
Penawdau heb eu marcio'n gywir
Mae eiconau rhai tudalennau glanio cyrsiau heb eu marcio fel rhai 'addurnol' ar gyfer testun amgen, sy'n peri ailadrodd neu ddryswch ar gyfer profiad darllenydd sgrîn.
Tagiau Diwerth ar Luniau
Defnyddiwyd ffeil generig wrth lunio rhai tagiau yn lle lluniau yn hytrach na disgrifiad eglurhaol.
Mae lluniau o ddiagramau a thestun yn bresennol mewn deunyddiau dysgu sydd wedi'u lanlwytho, heb unrhyw destun amgen na dolenni i ffynonellau.
Nid yw lluniau wedi'u labelu'n gywir
Yn ogystal, nid yw lluniau wedi'u codio'n briodol mewn modd ystyrlon neu addurnol, er enghraifft rhoddwyd disgrifiad amgen i rai eiconau.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 1.2.3 Disgrifiad sain neu gyfryngau amgen (a recordir ymlaen llaw)
Roedd fideos o ddarlithoedd ar gael a oedd yn dangos diagramau fel rhan o ddarlithoedd heb ffyrdd ychwanegol nac amgen i ddefnyddiwr gael mynediad at y cynnwys hwn.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 1.2.4 Isdeitlau (Byw)
Nid yw'n bosib isdeitlo cynnwys byw yn Panopto ar hyn o bryd.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 1.2.5 Disgrifiad Sain (a recordir ymlaen llaw)
Efallai nad oes gan fideos ddisgrifiadau sain na thestun amgen ar gyfer cynnwys gweledol.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd
Penawdau
Mae trefn y penawdau'n torri pan ddefnyddir y neges statws ar dudalen y dangosfwrdd.
Dim ond un pennawd a ddefnyddir ar dudalen rhestru fideos Panopto, er ei bod yn ymddangos bod cynnwys wedi'i labelu'n benawdau.
Profiad o’r ap pwrpasol yn erbyn profiad o’r wefan
Mae ap pwrpasol Canvas yn defnyddio llai o adeiledd hygyrchedd ac o ganlyniad i hynny dim ond un pennawd sydd ar gael ac yn aml nid oes dolenni nag arwyddnodau ar gael mewn rhaglenni darllen sgriniau ar ffonau symudol. Er ei fod yn weithredol, mae hyn yn gwaethygu'r profiad ar ffonau symudol â thechnoleg gynorthwyol.
Ap Llywio v Profiad ar y wefan
Nid yw'n cefnogi llywio'n aml drwy unrhyw beth ar wahân i sweipio, heb dirnodau na dolenni a dim ond un pennawd yn cael ei ddefnyddio ar draws y tudalennau. Wrth gymharu â'r fersiwn ar y we, mae hwn yn brofiad sylfaenol iawn.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 1.3.2 Dilyniant Ystyrlon
Trefn tab y mewnflwch yn gamarweiniol
Mae modd defnyddio'r mewnflwch gyda bysellfwrdd ond mae trefn y tab yn dangos teclyn rheoli nad yw'n cyd-fynd â golwg y defnyddiwr.
Golwg y calendr heb fod ar gael
Mae’r calendr yn cefnogi golwg yr agenda yn unig, sy'n cael effaith ar ddilyniant ystyrlon golwg y calendr.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 1.3.4 Gogwydd
Gall Turnitin ond gael ei ddefnyddio ar ffurf tirlun ar ffonau symudol oherwydd bod y ffurflen gyflwyno wedi'i thocio pan fydd yn cael ei defnyddio ar ffurf portread ar ddyfeisiau symudol.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 1.4.1 Y Defnydd o Liw
Gwallau Turnitin
Dim ond yn ôl lliw y mae modd gweld negeseuon gwall yn neialog cyflwyno Turnitin.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 1.4.3 Cyferbynnedd (Isafswm)
Mae Turnitin yn defnyddio'r neges "You have no active papers in the assignments" nad yw'n cydymffurfio â'r canllawiau cyferbynnedd ar hyn o bryd.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 1.4.5 Lluniau o destun
Mae lluniau o destun a ddefnyddir yn rheolaidd mewn cynnwys (cynnwys tudalen Canvas a ffeiliau PowerPoint a lanwythir) yn cynnwys gwybodaeth allweddol sy'n eu gwneud yn anhygyrch i ddefnyddwyr darllenwyr sgrîn, defnyddwyr sy'n gorfod closio at destun gan nad yw'r ddelwedd yn newid maint yn hwylus a'r rhai hynny sydd ag amhariad motor gan y gall y ddelwedd docio a newid maint yn wael gan alw am lawer o sgrolio llorweddol.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 1.4.12 Bylchiadau mewn Testun
Ni ellir defnyddio arddulliadau testun ar gynnwys testun mewn cwisiau newydd.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.1.1 Bysellfwrdd
Mae gan dudalen y calendr nifer o olygfeydd, gan gynnwys y calendr a'r agenda. Nid oes modd defnyddio bysellfwrdd i lywio drwy'r holl fis o olwg y calendr. Caiff defnyddwyr eu rhybuddio am hyn a chynigir golwg agenda iddynt.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.4.4 Diben Dolenni (mewn cyd-destun)
Talfyrru enwau dolenni
Mae dolenni profion a chwisiau wedi'u henwi'n amwys fel 'External tool link' a 'Launch external tool'.
Enwi dolenni adnoddau allanol mewn modd generig
Mae dolenni i brofion yn cael eu labeli mewn modd generig yn “External Tool Link” ar ap symudol pwrpasol Canvas.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.4.1 Dolenni Osgoi
Nid yw Panopto yn cynnwys y gallu i neidio i'r prif gynnwys. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ddefnyddwyr glicio ar sawl tab i gyrraedd cynnwys fideo.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.1.1 Addasu Amseru
Nid oes modd addasu'r amser a ganiateir ar gyfer cwis â chyfyngiadau amser yn Canvas. Mae'r cyfarwyddiadau'n datgan y bydd defnyddwyr yn cael amser ychwanegol os oes ei angen arnynt, ond ni chynigir teclynnau rheoli na chyfleuster i estyn yr amser. Mae'r cwis hefyd yn cael ei gyflwyno ar ddiwedd yr amser dynodedig.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.4.1 Dolenni Osgoi
Nid yw gwefan Panopto yn cynnwys y gallu i neidio i'r brif gynnwys. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ddefnyddwyr glicio ar sawl tab i gyrraedd cynnwys fideo drwy fysellfwrdd.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.4.3 Trefn Ffocws
Tabiau wedi torri
Nid yw tabiau Turnitin yn canolbwyntio ar gynnwys tabiau sy'n golygu bod yn rhaid i ddefnyddwyr dabio drwy'r holl opsiynau i gyrraedd yr opsiwn a ddewiswyd. Mae rhai tudalennau cyrsiau ar Canvas yn cynnwys defnydd dyblyg o benawdau mewn un llinell, sy'n achosi problemau i ddefnyddwyr darllenwyr sgrîn.
Penawdau Turnitin
Mae Turnitin yn gorfodi defnyddwyr i lywio drwy'r holl opsiynau cyflwyno er mwyn cyrraedd yr opsiwn dewisol. Er enghraifft, wrth ddewis “Upload Submission”, rhaid llywio drwy “Text Input” a “Cloud Submission” er mwyn cyrraedd meysydd ffurf “Upload Submission”.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.4.6 Penawdau a Labeli
Penawdau a ddefnyddir at ddibenion arddullio
Dim ond at ddibenion arddullio y defnyddir penawdau ar dudalennau cyrsiau ac ar dudalen aseiniadau Turnitin.
Pennawd ar goll
Mae pennawd ar goll ar dudalen aseiniadau Turnitin.
Lluniau mewn tag pennawd
Mae rhai tudalennau cwrs wedi mewnblannu llun mewn tag pennawd.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.4.7 Dangos Ffocws
Nid oes gan helaethwr Turnitin na swyddogaeth chwilio Panopto gylch ffocysu.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 2.5.5 Maint Targed
Nid yw Turnitin na Panopto'n ail-raddio nac yn ail-lifo wrth ddefnyddio ffonau symudol. Canlyniad hyn yw bod maint y pwyntydd islaw 44 pwynt. Byddai hyn hefyd yn effeithio ar ddefnyddwyr sydd ag amhariad motor neu weledol sy'n gorfod pinsio, closio a thapio ardaloedd cyffwrdd bach.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 3.1.1 Iaith Tudalen
Mae Canvas yn defnyddio Saesneg y Deyrnas Unedig fel iaith tudalennau, ond mae Turnitin yn defnyddio Saesneg yr Unol Daleithiau. Gall hyn effeithio ar ddefnyddwyr rhaglenni darllen sgriniau gan y gellir cyhoeddi dyddiadau'n wahanol.
Mae rhai tudalennau'n defnyddio Cymraeg a Saesneg, ond heb briodoli'r iaith berthnasol gyda thagiau HTML.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 3.3.3 Awgrymu Gwall
Neges Gwall yn y Mewnflwch
Mae rhai negeseuon gwall ym mlychau llunio deialog neges y mewnflwch yn wallau meysydd gofynnol generig yn hytrach na bod yn wallau penodol.
Amlygu Gwallau Cwisiau
Mae cwisiau clasurol yn nodi bod dau gwestiwn heb eu cwblhau, a hynny'n unig, heb amlygu meysydd lle ceir gwallau.
Mae negeseuon gwall cwisiau newydd yn fwy manwl ac maent yn nodi'r cwestiynau sydd heb eu cwblhau, ond nid ydynt yn amlygu meysydd lle ceir gwallau.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 4.1.1 Dosrannu
Un o broblemau mynych gyda thudalennau Canvas yw bod <div> yn cael ei ymgorffori gyda thagiau <button> mewn cwymplen gyffredin. Mae hyn hefyd yn broblem yn Turnitin.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth
Teitlau fframiau mewnol
Nid yw fframiau mewnol sy'n ymwneud ag ategion sy’n galluogi adnoddau dysgu i ryngweithredu (LTI) yn defnyddio teitl sy'n disgrifio'r cynnwys yn gywir. Mae pob LTI yn cael ei ddisgrifio fel “tool content”.
Botymau a ddefnyddir ar gyfer cynnwys
Mae'r tudalennau cyhoeddiadau'n defnyddio botymau i ddangos esboniad byr (tooltip). Mae hyn yn effeithio ar allu'r bysellfwrdd i we-lywio ac yn arwain at ddefnyddio rhagor o dabiau ar y tudalennau hyn.
Arwyddnodau generig mewn cwisiau
Mae'r cwisiau'n defnyddio arwyddnod cwestiwn sawl gwaith heb fanylion ychwanegol i ddynodi cwestiwn 1, 2, 3, etc.
Maen prawf llwyddiant 2.1 WCAG: 4.1.3: Negeseuon Statws
Negeseuon Statws Cwisiau â Chyfyngiadau Amser
Mae tudalennau cwestiynau cwisiau'n cael eu hamseru, ond nid ydynt yn dangos negeseuon statws neu hysbysiadau i nodi bod yr amser wedi dechrau. Mae'r cwisiau hefyd yn cael eu cyflwyno'n awtomatig a cheir neges sy'n anodd ei chlywed gan iddi gael ei chyflwyno ar yr un pryd.
Neges wall Turnitin
Mae Turnitin yn cyflwyno neges wall nad yw'n ffocysu pan fydd maes yn anghywir a hefyd mae'n defnyddio patrwm sy'n analluogi'r botwm nes bod y blychau wedi'u cwblhau. Mae hyn yn golygu bod neges wall yn ymddangos yn unol â'r blwch sy'n anghywir ac nid yw'r neges wall yn ffocysu nac yn cael ei chyhoeddi i ddarllenwyr sgrîn.
Dim cyhoeddiad yn nodi nifer y digwyddiadau ar ddiwrnod penodol
Nid yw'r ap pwrpasol yn nodi nifer y digwyddiadau ar ddiwrnod penodol. Mae ciw gweledol yn bresennol. Rhaid i ddefnyddwyr sweipio drwy bob diwrnod a'r holl gynnwys er mwyn deall digwyddiadau.
Baich anghymesur
Gwnaethpwyd asesiad gan ystyried maint y sefydliad a’r adnoddau sydd ar gael iddo a nodir cynnwys y tybir ei fod yn anghymesur yn yr adran hon.
Llywio a chyrchu gwybodaeth
Nid oes problemau neu nid yw’n berthnasol.
Offer rhyngweithiol a thrafodion
Nid oes problemau neu nid yw’n berthnasol.
Adnoddau rhyngweithiol
Ystyrir bod yr adnoddau a'r cymwysiadau rhyngweithiol sydd wedi'u hintegreiddio â Canvas sy'n galluogi adnoddau dysgu i ryngweithredu yn anghymesur gan nad yw'r Brifysgol yn datblygu'r cymwysiadau hyn nac yn rheoli'r ffordd y maent wedi'u hintegreiddio â system rheoli dysgu Canvas. Mae'r ategion sy'n galluogi adnoddau dysgu i ryngweithredu'n gynhyrchion dysgu ar wahân ac maent yn gwerthfawrogi hygyrchedd. Mae'r cynhyrchion hyn wedi gwneud ymdrech sylweddol i leihau rhwystrau i ddefnyddwyr a glynu wrth y canllawiau. Mae rhai o'r cynhyrchion hyn yn hanfodol er mwyn darparu trefniadau dysgu ar-lein mewn cyrsiau a gynigir gan y Brifysgol.
Ceir dolen i nodweddion a datganiadau hygyrchedd pob cymhwysiad er gwybodaeth.
MyMathLab
Hygyrchedd MyMathLab
Koretext
Hygyrchedd Koretext
Pebble+ 2015 ac ATLAS 2015
Hygyrchedd Pebble+ 2015 ac ATLAS 2015
Numbas
Hygyrchedd Numbas
Learning Science
Gwefan Learning Science
Adnoddau Connect a Create McGraw-Hill
Hygyrchedd Adnoddau Connect a Create McGraw-Hill
Fersiwn 6 Planet eStream
Hygyrchedd Fersiwn 6 Planet eStream
Ategyn LTI Turnitin
Hygyrchedd Ategyn LTI Turnitin
Office 365
Hygyrchedd Office 365
Vimeo
Gwefan Vimeo
YouTube
Cymorth Hygyrchedd YouTube
Leganto
Hygyrchedd Leganto
Nodiadur Dosbarth OneNote
Hygyrchedd Nodiadur Dosbarth OneNote
Panopto
Nodweddion Hygyrchedd Panopto
Zoom
Hygyrchedd Zoom
EvaSys
Hygyrchedd EvaSys
Unitu
Hygyrchedd Unitu
Mae'r Brifysgol yn deall ei dyletswydd gofal i ddarparu gwasanaethau sy'n hygyrch i bawb, ac wrth ddefnyddio cynhyrchion trydydd parti rydym yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio'n dderbyniol. Os ydych yn teimlo bod rhwystrau wrth ddefnyddio unrhyw un o'r adnoddau rhyngweithiol, cysylltwch â ni a byddwn yn gweithio gyda'r darparwyr i fynd i'r afael â hyn.
Cynnwys sydd y tu allan i gwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Gwnaethpwyd asesiad gan ystyried maint y sefydliad a’r adnoddau sydd ar gael iddo a nodir cynnwys y tybir ei fod y tu allan i gwmpas y rheoliadau yn yr adran hon.
Ffeiliau PDF a dogfennau eraill
Efallai nad yw rhai o'r PDFs hŷn a ddefnyddir gyda chynnwys modiwlau'n bodloni safonau hygyrchedd. Efallai nad ydynt wedi'u strwythuro i fod yn hygyrch i raglenni darllen sgriniau gan iddynt gael eu darparu gan drydydd partïon.
Darperir nodiadau darlithoedd fel ffeiliau PowerPoint nad ydynt mewn rhai achosion yn bodloni safonau hygyrchedd gan eu bod yn cynnwys lluniau o destun neu ddiagramau nad ydynt wedi'u dylunio mewn ffordd hygyrch. Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i ddarparu cynnwys hygyrch i bob defnyddiwr. Bydd angen amser, adnoddau a hyfforddiant i osod cynnwys newydd yn lle'r cynnwys hwn. Ymgymerwyd â rhaglen hyfforddiant a chynyddu ymwybyddiaeth golygyddion cynnwys a staff addysgu.
Mae'r Brifysgol yn cynnig gwasanaeth trawsgrifio i gael gwared ar unrhyw rwystrau a chefnogi myfyrwyr ag anghenion ychwanegol. Darperir trawsgrifiadau o lawlyfrau modiwlau, cyflwyniadau PowerPoint, taflenni, erthyglau cyfnodolion, detholiadau a llyfrau cyflawn mewn fformatau electronig, print bras, braille a ffeiliau pdf hygyrch. Gallwn hefyd gyflwyno diagramau cyffyrddadwy.
Bydd unrhyw ffeiliau PDF a dogfennau Word newydd rydym yn eu cyhoeddi yn ymdrechu i fodloni safonau hygyrchedd.
Yr hyn rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Mae ein Map Hygyrchedd Canvas yn dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd yn canvas.swan.ac.uk.
Paratoi'r datganiad hwn am hygyrchedd
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 23/01/2023. Cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf ar 23/01/2023.
Cafodd gwefan canvas.swan.ac.uk ei phrofi ddiwethaf ar 09/01/2023. Cynhaliwyd y prawf gan ein harbenigwr defnyddioldeb a hygyrchedd mewnol.
Mae system rheoli dysgu Canvas wedi cael ei gwerthuso gan drydydd parti arbenigol, WebAim. Mae adroddiad WCAG am hygyrchedd Canvas ar gael sy'n crynhoi cydymffurfiaeth y cymhwysiad hwn o ran hygyrchedd.
Efallai nad yw nifer o’r ategion sy'n galluogi adnoddau dysgu i ryngweithredu sydd wedi'u hintegreiddio yn Canvas yn cydymffurfio'n llawn â safon AA fersiwn 2.1 WCAG. Mae cynhyrchwyr Canvas wedi datgan eu bod yn gweithio i gynnal system rheoli dysgu sy'n cydymffurfio a bod ganddynt broses o fesurau archwilio, cofnodi a datrys problemau mewnol ar waith.
Defnyddiwyd proses ac ymagwedd gyson gennym i benderfynu ar sampl o dudalennau i'w profi. Mae hyn ar gael ar y dudalen Sut gwnaethom brofi Canvas