Sut Rydym yn Bwriadu Gwella Hygyrchedd yn Canvas
Mae ein map hygyrchedd yn dangos sut a phryd rydym yn bwriadu gwella hygyrchedd yn canvas.swan.ac.uk:
- Adolygu archwiliad hygyrchedd system rheoli dysgu Canvas bob blwyddyn er mwyn asesu cydymffurfiaeth â safonau 2.1 WCAG (Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We).
- Gweithio gyda darparwyr Canvas ac ategion sy’n galluogi adnoddau dysgu i ryngweithredu (LTI) i fynd i'r afael â materion sy'n codi drwy archwilio a phrofi sampl o dudalennau'n fewnol.
- Gweithio gyda golygyddion cynnwys i'w haddysgu am arfer gorau o ran hygyrchedd wrth ddefnyddio penynnau, testun yn lle lluniau, darparu ffynonellau pan ddefnyddir diagramau a gweithio i leihau'r defnydd o luniau sy'n cynnwys testun.
- Cyfleu pryderon difrifol am hygyrchedd a materion sy'n deillio'n uniongyrchol o ddefnyddwyr i ddarparwyr Canvas ac LTI er mwyn iddynt fynd i'r afael â hwy cyn gynted â phosib.
- Ymchwilio i brosesau i fonitro ac awtomeiddio'r broses o brofi cydymffurfiaeth platfform Canvas â hygyrchedd er mwyn meithrin diwylliant o welliant parhaus o ran hygyrchedd yn y Brifysgol.
Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud dros y 12 mis nesaf.