Chris Marshall
Chris Marshall yw Pennaeth Polisi a Strategaeth y Brifysgol. Mae ganddo ddealltwriaeth gadarn o'r Brifysgol, ar ôl treulio 16 mlynedd yn hyrwyddo ei diwylliant, ei hanes a'i threftadaeth, datblygu ei chryfderau ymchwil, a helpu i osod ei chyfeiriad strategol. Mae ganddo wybodaeth dda am dirwedd ariannu'r DU ac mae wedi helpu cydweithwyr i ennill dros £100m mewn cyllid ymchwil ers 2012, gan gynnwys ar gyfer seilwaith, rhaglenni meithrin capasiti a mentrau rhyngddisgyblaethol. Mae wedi cefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyflwyno rhaglenni gradd arloesol, ac wedi arwain y gwaith o gyflwyno Uwchgynhadledd Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton a gynhaliwyd am dri diwrnod ym mis Tachwedd 2021.
Lella Nouri
Mae Lella Nouri yn Uwch Ddarlithydd Troseddeg ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen MA mewn Seiberdrosedd a Therfysgaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Lella hefyd yn rhan o Ganolfan Deallusrwydd Bygythiadau Seiber (CYTREC) Prifysgol Abertawe.
Mae gwaith Lella yn rhyngddisgyblaethol gyda ffocws ar gydweithio ar draws y Gwyddorau Cymdeithasol a Chyfrifiadurol. Mae gan Lella gysylltiadau cryf â rhanddeiliaid lleol gan gynnwys heddlu Gwrthderfysgaeth, cynghorau lleol, llywodraethau yn ogystal â grwpiau cymunedol sydd â diddordeb.
Am ragor o wybodaeth am Dr Nouri neu i gysylltu, ewch i'w phroffil staff Prifysgol.
Kelly James
Mae Kelly James yn Swyddog Datblygu Ymchwil sy'n cefnogi cydweithwyr yn bennaf yn y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddorau Bywyd gydag ymchwil a datblygu ceisiadau, a hi yw arweinydd sefydliadol Y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC).
Mae Kelly yn angerddol am ymchwil draws-ddisgyblaethol ac yn dod o gefndir ymchwil amlddisgyblaethol, ar ôl ennill ei Doethuriaeth ar y rhyngwyneb Ffiseg-Gwyddor Bywyd.
Karl Hawkins
Mae Karl yn Athro yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan NanoIechyd. Mae ei ddiddordebau'n canolbwyntio ar agweddau trosiadol ar beirianneg fiofeddygol. Mae Karl yn dod â phrofiad mewn ymchwil ryngddisgyblaethol, gan weithio ar y rhyngwyneb Peirianneg a Gwyddorau Bywyd, ac mae wedi sefydlu cydweithrediadau â chlinigwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Kim Dienes
Mae Kimberly A. Dienes yn Ddarlithydd mewn Seicoleg Glinigol ac Iechyd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae hi'n ymchwilio i sensitifrwydd straen biolegol a seicolegol a sut y gall straen arwain at ganlyniadau clinigol ac iechyd negyddol. Mae hi'n cydweithio'n genedlaethol ac yn rhyngwladol ar brosiectau ymchwil gan gynnwys pynciau fel: risg ar gyfer iselder (Prifysgol Rochester, UDA), llwyth alostatig, ansicrwydd yn y gweithle, a chyfathrebu perthynol (Prifysgol Manceinion), effaith ymgysylltu ym myd natur ar les (Down to Earth), nam ar y golwg, sglerosis ymledol a barn y cyhoedd am bandemig y coronafeirws (Prifysgol Abertawe). Mae wedi derbyn cyllid gan y Cyngor Ymchwil Feddygol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ac wedi cyhoeddi nifer o erthyglau. Mae hi'n aelod o Is-grŵp Cyfathrebu am Risg a Mewnwelediadau Ymddygiadol (RCBI) Grŵp Cynghori Technegol (TAG) Llywodraeth Cymru ar gyfer COVID-19.
Thomas Reitmaier
Rwy'n Swyddog Ymchwil Ôl-ddoethurol ar gyfer UnMute, prosiect ymchwil rhyngddisgyblaethol sy’n cael ei ariannu gan yr EPSRC ac sy'n creu cyfleoedd rhyngweithio iaith lafar newydd gyda chymunedau o siaradwyr ieithoedd lleiafrifol nad ydynt ar hyn o bryd yn ‘cael eu clywed’ yn ddigidol. Rwy'n gweithio yn y Ffowndri Gyfrifiadol hardd ym Mhrifysgol Abertawe gyda chydweithwyr anhygoel.
Rwyf hefyd yn arwain ar y rhaglen labletau rhyngwladol sy’n cael ei ariannu gan MASI ac sy'n arloesi ffyrdd o gyd-greu gyda chymunedau ymylol mewn byd sydd wedi'i siapio'n ddwfn gan y pandemig coronafeirws parhaus.
Drwy fy ngyrfa, rwy'n defnyddio’r sgiliau a'r ymwybyddiaeth a ddatblygais yn ystod fy Noethuriaeth yn y Ganolfan TGCh ar gyfer Datblygu ym Mhrifysgol Cape Town: dylunio, datblygu a gwerthuso technolegau newydd sy'n rhoi gwell mynediad, ymwybyddiaeth a rheolaeth i bobl bob dydd dros y pethau sy'n bwysig iddyn nhw.
Mae rhagor o wybodaeth a'r rhan fwyaf o fy nghyhoeddiadau ar gael ar fy ngwefan.