Diolch am gymryd rhan yn y rownd gyntaf o enwebiadau. Rydym wedi llunio rhestr o 21 o dechnegwyr rhagorol a gafodd eu henwebu gan eu cymheiriaid.

Nawr, rydym yn eich gwahodd i bleidleisio dros y tri thechnegydd gorau, yn eich barn chi, o'r rhestr hon. Bydd eich detholiadau'n ein helpu i lunio rhestr fer derfynol o dri ymgeisydd am Wobr Technegydd y Technegwyr yn y Brifysgol.

Diben y wobr hon yw cydnabod un o'n cymheiriaid; rhywun sy'n sefyll allan am ei sgiliau technegol yn ogystal â'i ymagwedd at waith tîm a'r ffordd mae'n cefnogi'r rhai hynny o'i gwmpas. Dyma wobr ar gyfer y technegydd y mae cydweithwyr yn troi ato'n naturiol, oherwydd y mae bob amser yn barod i helpu a rhannu ei arbenigedd.

Gallwch fwrw pleidlais tan 7 Gorffennaf.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: techniciancommitment@abertawe.ac.uk