Ym mha gyfadran rydych chi'n gweithio?
Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Pryd ddechreuoch chi ym Mhrifysgol Abertawe?
Dechreuais i ym mis Mawrth 2023 fel Technegydd yn y prosiect a oedd yn ymwneud â datblygu biofolwsgladdwr newydd, ar gontract dros dro.

Sasha

Beth gwnaeth eich denu i Brifysgol Abertawe?
Mae ffrind agos wedi bod yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe am gyfnod hir yn ei bywyd ac amlygodd hi fod y Brifysgol yn gyfle gwych i mi gan fod gennyf radd Meistr ym maes technoleg bwyd cemeg. Byddai hyn yn fy ngalluogi i ddefnyddio’r wybodaeth y gwnes i ei meithrin wrth astudio mewn prifysgol yn Wcráin.

Allech chi roi gwybod i ni am eich llwybr i Abertawe? Wnaethoch chi wynebu heriau wrth ddod i weithio yma?
Rwy'n hanu o Wcráin a doedd fy llwybr i Abertawe ddim yn hawdd. Ym mis Chwefror 2022, am resymau amlwg, roedd yn rhaid i mi ofalu am fy niogelwch fy hun a diogelwch fy merch. Drwy gymorth llywodraeth y DU, cefais i'r cyfle i deithio i'r DU.

Pan symudais i i'r DU, doeddwn i ddim yn gallu siarad Saesneg ac roedd dod o hyd i swydd yn heriol. Ochr yn ochr â gweithio ar gontractau dros dro mewn sawl rôl, megis cadw tŷ a choginio, byddwn i'n astudio Saesneg yng Ngholeg Gŵyr gyda'r hwyr i wella fy Saesneg a chyrraedd lefel lle byddwn i'n ddigon hyderus i allu cyfathrebu â phobl.

laboratory

Doedd fy nghyfweliad cyntaf am rôl ym Mhrifysgol Abertawe ddim yn llwyddiannus. Roeddwn i o'r farn ei bod hi'n gyfle i ddysgu a chael adborth, a phan gyflwynais i gais am rôl wahanol fel Technegydd Labordy ar gyfer prosiect ymchwil dros dro, roeddwn i'n llwyddiannus. Ar ôl gweithio yn y Brifysgol am gyfnod byr, sylweddolais i fy mod i am ddatblygu gyrfa yma. Pan welais i'r hysbyseb am rôl Technegydd (Cymorth Ymchwil), roedd yn gyfle perffaith i ddechrau fy ngyrfa barhaol mewn maes sydd â chysylltiad agos â'm gradd.

Sut rydych chi wedi datblygu ers dechrau yn y Brifysgol?
Yn gyntaf oll, rwyf wedi parhau i wella fy sgiliau iaith drwy gyfathrebu â chydweithwyr, llunio e-byst ac ymchwilio ar gyfer papurau. Rwyf hefyd yn parhau i feithrin sgiliau eraill o ran TG, iechyd a diogelwch, rheoli gwastraff cemegol a chynnal a chadw a graddnodi cyfarpar. Rwyf wedi ennill tystysgrifau hyfforddiant Cymorth Cyntaf yn y Gwaith a Chymorth Cyntaf Cemegol. 

Rwyf bellach yn teimlo'n fwy hyderus wrth allu rhoi cymorth i fyfyrwyr ac academyddion yn y labordai pan fydd ei angen ac rwy'n sicrhau bod y labordai'n amgylchedd diogel i bawb weithio

laboratory

Beth yw cynnwys eich swydd?
Mae fy rôl yn cynnwys cefnogi a helpu academyddion a myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig mewn labordai ymchwil. Mae hyn yn cynnwys rhoi cymorth technegol, cymorth gyda chyfarpar, cymorth iechyd a diogelwch ac unrhyw gymorth a help arall yn ôl yr angen. Yn ogystal, rwy'n helpu i gynnal a chadw labordai a chyfarpar yn unol â safonau iechyd a diogelwch; rwy'n cynnig cymorth gyda phrosesau caffael a phrynu; ac rwy'n rhwydweithio â staff technegol eraill yn y Gyfadran, y Brifysgol ac ym maes ehangach addysg uwch neu'r sector diwydiannol i wella profiad y myfyrwyr a/neu'r ymchwilwyr.

Beth yw'r pethau gorau am weithio ym Mhrifysgol Abertawe?
Diwylliant fy nhîm ac, yn ehangach, fy nghydweithwyr ym mhob rhan o'r Brifysgol. Mae pawb yn gyfeillgar ac yn gefnogol ac yn barod i gynnig help bob amser pan fydd ei angen arna i. Mae hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd gwaith ac mae’n hybu fy hyder i gyfathrebu ag amrywiaeth eang o bobl o gefndiroedd gwahanol, gan hefyd roi'r cyfle i mi ddiweddaru ac uwchraddio fy ngwybodaeth a'm sgiliau'n barhaus.