Roeddwn i bob amser wedi eisiau ymweld â'r Ffindir ond doeddwn i byth wedi cael y cyfle. Roeddwn i'n gwybod y byddwn yno yn ystod y gaeaf yn bennaf, sef yr amser perffaith i archwilio.
Yr uchafbwyntiau oedd nifer y gwibdeithiau a'r gweithgareddau, a nifer y bobl y gwnes i gwrdd â nhw o wledydd gwahanol. Mae gan Turku gymdeithas wych a drefnodd wibdeithiau i leoedd megis y Lapdir ac Ynysoedd Lofoten, Norwy.
Roedd hi'n flwyddyn wych heb os! Gwnaeth imi fwynhau fy ngradd yn llawer mwy a byddwn yn argymell treulio blwyddyn dramor i bawb gan y cewch chi brofiadau anhygoel a byddwch yn cwrdd â phobl na fyddwch chi byth wedi dod ar eu traws!

Charlotte Blackshaw, Prifysgol Turku, Ffindir




