Roeddwn i am dreulio blwyddyn dramor oherwydd bod pawb a oedd wedi gwneud hynny yn flaenorol wedi dweud mai dyna oedd y flwyddyn orau o'u bywydau ac roeddwn i'n gwybod nad oedd hi'n bosib i'r holl bobl hynny fod yn anghywir.
Hefyd, doeddwn i ddim am wrthod y cyfle i gwrdd â phobl o wledydd gwahanol a darganfod lleoedd a diwylliannau newydd, ynghyd â byw mewn gwlad arall.
Es i i'r Iseldiroedd ar gyfer fy mlwyddyn dramor oherwydd bod enw da gan y wlad hon am fod yn wlad ryddfrydol sydd â thirnodau anhygoel a diwylliant nodweddiadol. Yn ogystal â hynny, roedd gan y Brifysgol enw da rhyngwladol ynghyd â safle uchel yn y tablau. Hefyd, mae'r wlad mewn lleoliad ardderchog sy'n cynnig mynediad hawdd i weddill Ewrop.
Ces i amser anhygoel; gan gynnwys rhoi cynnig ar gampau newydd nad oeddwn i wedi'u dychmygu ac ymweld â lleoedd nad oeddwn i'n gwybod amdanynt nac yn gallu eu hynganu. Roedd dathlu fy mhen-blwydd a'r Flwyddyn Newydd mewn gwledydd dramor gyda fy ffrindiau rhyngwladol yn uchafbwyntiau yn ystod fy amser yno yn bendant.
Roedd ymgyfarwyddo â'r ffordd Iseldiraidd o fyw a reidio beic i bobman yn agoriad llygaid i mi. Hefyd, roedd hi'n wych teithio i ystod eang o wledydd ac ymgymryd â modiwlau fyddwn i ddim wedi gallu eu hastudio cartref.
Dysgais i am ddiwylliannau a lleoedd newydd ond, yn bwysicach na dysgu am ein gwahaniaethau, rwy'n meddwl fy mod i wedi dysgu mwy am ba mor debyg oedd pawb yno i fi. Er bod pawb wedi dod o leoedd a diwylliannau gwahanol, gan siarad ieithoedd gwahanol, roedd pawb yno er mwyn gwneud ffrindiau, cael y budd mwyaf o'r cyfle a chael hwyl.
Y peth gorau am fy mlwyddyn dramor yw'r holl ffrindiau rwyf wedi eu gwneud a'r atgofion a fydd gennyf hyd fy oes.