Treuliais i flwyddyn academaidd yn astudio ym Madrid. Dyma oedd blwyddyn orau fy mywyd oherwydd yr amrywiaeth eang o brofiadau a gefais, sydd wedi fy newid yn ddramatig fel person.
Es i i Madrid heb wybod dim gair o'r iaith Sbaeneg, sy'n gallu ymddangos yn heriol neu'n ddiniwed i rai pobl. Yn yr ychydig wythnosau cyntaf, roedd hyn yn cymhlethu tasgau bob dydd fel mynd i'r siop er enghraifft.
Pan gyrhaeddais i fy mhrifysgol wadd, cwrddais i ag amrywiaeth o bobl wych a gwnes i feithrin cyfeillgarwch agos â nhw yn ystod fy amser yno.
Alla i ddim cyfrif y profiadau anhygoel a agorodd fy llygaid pan oeddwn i ym Madrid. Maent yn cynnwys gweld arfordir hardd San Sebastián, dathlu fy mhen-blwydd yn 21 oed gyda ffrindiau newydd a fydd yn annwyl i mi hyd fy oes, Gŵyl Las Fallas Valencia a byw dafliad carreg o Parque del Oeste. Dyma atgofion bythgofiadwy.
Fy nod oedd dysgu Sbaeneg nes fy mod yn rhugl erbyn diwedd fy mlwyddyn dramor. Wnes i ddim llwyddo i wneud hyn. Ond eto, alla i ddim ystyried hwn fel methiant o'i gymharu â nifer anhygoel y profiadau a'r twf personol rwyf wedi'u profi yn ystod fy mlwyddyn dramor.
Fy mlwyddyn ym Madrid oedd, heb os nac oni bai, y flwyddyn orau o'm bywyd oherwydd ei bod wedi fy ngalluogi i ddarganfod fy nghymeriad o'r newydd ac rwyf wedi tyfu'n bersonol mewn cynifer o ffyrdd.