Kamile with the Hollywood sign

Lithwaniad ydw i ond cefais fy magu yn Llundain. Treuliais i fy mlwyddyn dramor ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, Bakersfield.

Newidiodd y profiad fy mywyd, er bod hynny'n swnio'n ystrydebol. Gwnaeth y profiad herio fy marn a'm safbwynt, yn academaidd ac yn fy mywyd personol.

Rhoddodd y profiad gyfle i mi astudio pynciau na fyddwn i wedi cael y cyfle i'w hastudio yn y DU ynghyd â chwrdd â phobl sydd bellach fel teulu i mi. Byddwn i'n argymell hwn yn fawr.