Ritika Vig
Mae’r modiwl Addysg Gyfreithiol Glinigol yn darparu llwybr i roi’r wybodaeth ddamcaniaethol a ddysgwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ar waith yn y byd ymarferol. Mae’n cynnwys cyfarfod â chleientiaid mewn amgylchedd proffesiynol, cyfweld â nhw, arddangos sgiliau a gweithio arnynt megis gwrando gweithredol, cyfathrebu gweithredol, empathi, llunio llythyron cyngor, a hunan-fyfyrio.
Fel rhan o’r modiwl yn gyffredinol, cewch gwrdd â chleientiaid, cyfweld â nhw, a chymryd nodiadau; hefyd, cewch gyfle i ymchwilio a llunio llythyron cyngor ar gyfer y cleient.
Rwyf wedi bod mor ffodus i allu cynrychioli’r modiwl ar y Bwrdd Myfyrwyr a Chleientiaid. Diben fy rôl yw cyfleu’r hyn a fyddai’n helpu i wella’r modiwl a’r berthynas rhwng yr athro a’r myfyrwyr. I roi cymorth i fyfyrwyr ar y cwrs ond hefyd i osod disgwyliadau clir i’r cleientiaid ac ar eu cyfer.
Rhiannon Smith
Cefais i fy nenu yn y lle cyntaf i ddewis Abertawe gan fod y staff roeddwn i wedi cwrdd â nhw o Ysgol y Gyfraith yn groesawgar iawn ac yn fy marn i, roedden nhw’n ymddiddori o ddifrif i sicrhau bod y myfyrwyr yn fodlon ar eu hastudiaethau. Ar ôl bod yma ers bron tair blynedd bellach, galla i gadarnhau’n llwyr bod hyn yn wir a bod anghenion myfyrwyr wrth galon Ysgol y Gyfraith. Un o'r pethau rwy'n eu gwerthfawrogi fwyaf am astudio yn Abertawe yw'r sylw a roddir i lais y myfyrwyr, yn ogystal â’r ffaith bod y staff bob amser mor hawdd siarad â nhw os bydd angen cymorth arna i.
Megan Sumner
Mae’r Clinig Cyfreithiol wedi fy helpu i gael profiad ymarferol trwy ddefnyddio fy ngwybodaeth gyfreithiol i gefnogi cleientiaid gyda sefyllfaoedd bywyd go iawn. Mae’r profiad wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy nhechnegau cyfathrebu a rhyngbersonol wrth hefyd fagu fy hyder o ran sgiliau bob dydd y mae eu hangen er mwyn bod yn gyfreithiwr. Byddwn yn argymell yn fawr eich bod chi’n cymryd rhan yn y Clinig Cyfreithiol os hoffech chi dderbyn profiad ymgynghori ymarferol.
Nia Phillips a Kelly Barlow
Beth mae cymryd rhan ym Mhrosiect Camweinyddiad Cyfiawnder yn ei olygu?
Kelly: Mae'n golygu gweithio ochr yn ochr â'r elusen Inside Justice. Mae ei Fwrdd Cynghori yn rhoi achos inni er mwyn adolygu a yw rhywun yn ddieuog yn ffeithiol ac yna rydyn ni’n gweithio ar yr achos hwn, gan ymchwilio iddo.
Nia: Yn bendant, rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â llu o asiantaethau ac yn gofyn i arbenigwyr am gymorth. Mae hyn yn caniatáu inni ddeall y trothwy profi.
Kelly: Ac ar ôl inni edrych ar eu hachos, rydyn ni'n edrych ar drawsgrifiadau’r heddlu yn sgîl y cyfweliadau gyda'n cleient. Yna, rydyn ni'n ymchwilio i'r dystiolaeth sy'n gysylltiedig â’r achos i ganfod a fydd yn dal dŵr yn y llys. Rydyn ni hefyd yn ystyried euogfarnau blaenorol a dulliau tystiolaeth nad ydyn nhw bellach yn cael eu hystyried yn rhai cadarn er mwyn profi bod ein cleient mewn gwirionedd yn ddieuog yn ffeithiol.
Nia: Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’n gilydd fel tîm i helpu person go iawn i gael cyfiawnder a'r un tîm sy'n gwneud yr ymchwil ac yn gofyn y cwestiynau i gyrraedd y pwynt pan fydd modd profi bod euogfarn wedi bod yn anniogel.
Beth mae clinig y gyfraith yn ei olygu ichi?
Nia: I mi, mae clinig y gyfraith yn lle diogel, mae’r hyn rwy’n ei feddwl a’m syniadau yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu hystyried bob amser. Mae hefyd yn lle proffesiynol i weithio sy'n peri imi deimlo bod fy ngwaith yn wirioneddol bwysig tra’n dangos imi hefyd ei bod hi'n iawn gofyn am gymorth yn y gwaith. Mae bod yn aelod o glinig y gyfraith wedi rhoi llawer o gyfleoedd imi a fydd yn aros gyda mi am weddill fy oes ac mae’r rhain wedi caniatáu imi fod yn hyderus ym mhopeth rwy’n ei wneud.
Kelly: I mi, mae clinig y gyfraith yn fy ngalluogi i wneud newid go iawn a gwahaniaeth gwirioneddol o ran bywydau pobl. Mae'n dangos pa mor bwysig yw gwaith pro bono yn y gymuned o'n cwmpas a’n bod ni yno i ddal a helpu pobl pan fydd y system gyfiawnder wedi cael effaith negyddol ar gleient megis yn achos prosiect camweinyddiad cyfiawnder. Mae'n dangos yr effaith y gall prifysgol ei chael nid yn unig ar y myfyrwyr ond ar y gymuned gyfan. Yn bwysicaf oll, hwn yw un o'r profiadau gorau rwy wedi’u cael yn y brifysgol a'r tu allan iddi ac ni fydda i byth yn anghofio'r effaith y mae wedi'i chael arna i.