Mae'r LLM Ymarfer Cyfreithiol a Drafftio Uwch yn cyfuno ein Cwrs Ymarfer Cyfreithiol (LPC) â modiwl dysgu annibynnol, er mwyn gwella eich sgiliau cyfreithiol a rhoi cymhwyster gwerthfawr i chi ar lefel Meistr.
Mae'r LLM yn gwrs ar gyfer graddedigion y gyfraith a'r rhai sydd â Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion. Mae'n cynnwys y cymhwyster LPC, sy'n gam hanfodol ar y llwybr i gymhwyso'n gyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr i'r rhai sy'n ceisio gwneud hynny drwy gontract hyfforddi. Mae ar gael i'r rhai a ddechreuodd GDL neu radd yn y gyfraith erbyn mis Medi 2021.
Mae'r LLM yn gwrs ymarferol, sy'n cael ei ddysgu'n gyfan gwbl gan gyfreithwyr a bargyfreithwyr profiadol, sy'n canolbwyntio ar feithrin yr wybodaeth a'r sgiliau y mae eu hangen i fod yn gyfreithiwr dan hyfforddiant llwyddiannus. Mae'r LLM yn rhan o'r Ganolfan Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol, sy'n cynnal cynllun lleoliad gwaith llwyddiannus sy'n helpu myfyrwyr i gael y profiad y mae ei angen arnynt i sicrhau gwaith yn y sector cyfreithiol.
Bydd angen i unrhyw un sy'n dechrau ar ei radd yn y gyfraith neu ei GDL ar ôl mis Medi 2021 sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE). Os ydych chi yn y categori hwn, gweler ein LLM Ymarfer Cyfreithiol Proffesiynol (graddedigion y gyfraith) neu ein LLM yn y Gyfraith ac Ymarfer Cyfreithiol (graddedigion nad ydynt yn meddu ar radd yn y gyfraith) gan fod y cyrsiau hyn wedi'u creu i'ch helpu i baratoi ar gyfer yr SQE.
Ni fydd angen i fyfyrwyr sy'n cwblhau'r LLM mewn Ymarfer Cyfreithiol a Drafftio Uwch yn llwyddiannus sefyll yr SQE ar yr amod eu bod yn cymhwyso'n gyfreithwyr erbyn mis Rhagfyr 2032.
Rhagor o wybodaeth ar dudalen y cwrs LLM Ymarfer Cyfreithiol a Drafftio Uwch.