Dyma gwrs proffesiynol a luniwyd yn benodol ar gyfer graddedigion y Gyfraith sydd am baratoi ar gyfer Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr 1 a 2 (SQE 1 a 2).
Mae'r rhaglen yn cyfuno gwybodaeth hanfodol a sgiliau cyfreithiol ymarferol er mwyn darparu’r paratoadau hanfodol i raddedigion y Gyfraith sydd am gymhwyso i fod yn gyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr trwy’r SQE.