Ymwelodd:
Gorffennaf – Medi 2024
Ymchwil gyda CYTREC
Safonau dilysu ar gyfer derbynioldeb delweddau lloeren a luniwyd gan newyddiadurwyr OSINT ac ymarferwyr hawliau dynol fel tystiolaeth wrth erlyn troseddau erchyll.
Bywgraffiad:
Mae Myriam yn newyddiadurwr, yn meddu ar PhD ac yn uwch-dechnegydd mewn deallusrwydd ffynhonnell agored (OSINT). Mae'n addysgu Cysylltiadau Rhyngwladol fel Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Complutense Madrid (Y Gyfadran Gwyddorau Gwybodaeth). Ar ôl ysgrifennu llawlyfr arloesol ar ddilysu digidol yn Sbaen, bu'n helpu'r cyfryngau i greu eu hunedau dilysu a hyfforddi gohebwyr yn erbyn iaith casineb, twyllwybodaeth fyd-eang a phropaganda etholiadol ar draws Ewrop, Affrica ac Asia ers mwy na degawd.