Mae digonedd o astudiaethau ynghylch y bygythiad i ddemocratiaeth y mae polareiddio cymdeithasol a defnyddio gwahaniaeth fel arf yn ei achosi ledled y byd. Mae llai o ymchwil wedi bod i ddisgyrsiau a rhyngweithiadau gweithredwyr nad ydynt yn rhan o'r elît sy'n galluogi ffyrdd cilyddol a chefnogol o fyw ar y cyd yn dda mewn cyd-destunau lle ceir amrywiaeth uchel. Mae ein prosiect ymchwil yn mynd i'r afael â'r bwlch hwn.
Gyda'r teitl 'Repairing sociality, safeguarding democracy: Transatlantic North-South narratives and practices of deep equality' (prosiect RSSD/Social Repair), rydym yn ymchwilio i arferion pob dydd mewn cyd-destunau lleol yn Ne Affrica, Brasil, Canada a'r DU. Yn aml, bydd pobl yn llywio amrywiaeth mewn ffyrdd sy'n galluogi cyd-ddealltwriaeth a chydnabyddiaeth gymdeithasol. Mae ein prosiect De-Gogledd, all-lein-ar-lein yn chwilio am yr eiliadau 'cyffredin' hyn mewn astudiaethau achos cymharol traws gwlad.
Rydym yn defnyddio ethnograffeg feirniadol a dadansoddiad digidol i ddysgu sut mae pobl yn atgyweirio cymdeithasoldeb er mwyn meithrin mwy o ymddiriedaeth a chynhwysiant ym mhob un o'r pedair democratiaeth hyn, er gwaethaf erydiad hyder mewn cynrychiolaeth wleidyddol ac yn y system gyfreithiol o sicrhau cyfiawnder. Mae hyn yn cynnwys dod â chysyniad Lori Beaman o gydraddoldeb dwfn i sgwrs â chysyniadau o Dde'r Byd. Gall mynegiadau ac arferion cysylltu dynol o'r gwaelod i fyny greu llwybrau newydd ar gyfer atgyfnerthu democratiaeth, sicrhau llywodraethu cynhwysol a gwella ymddiriedaeth.