Prosiect Diogeledd, Diogelwch a Gwytnwch Ymchwilwyr (REASSURE)
Mae risgiau unigryw yn gysylltiedig ag ymchwil academaidd i eithafiaeth a therfysgaeth ar-lein. Y risg gyntaf yw gwylio cynnwys trallodus yn rheolaidd, er enghraifft dadansoddiad manwl o filoedd o fideos neu luniau wedi’u creu gan ISIS. Yr ail un yw’r posibilrwydd y gall partïon troseddol dargedu’r ymchwilydd, ar-lein ac all-lein, drwy ddocsio, trolio neu fygythiadau corfforol. Hyd yn hyn, nid oes llawer o ganllawiau wedi bod ar gael i ymchwilwyr am sut i ymdopi naill ai â phroblemau iechyd meddwl o ganlyniad i wylio deunydd treisgar a sarhaus dro ar ôl tro neu’r heriau o gadw’n ddiogel yn yr amgylchedd rhithwir ac yn gorfforol. Nid oes astudiaeth gynhwysfawr wedi bod chwaith o natur yr heriau neu’r risgiau hynny.
Nod prosiect REASSURE (Researcher Security, Safety and Resilience) yw llenwi’r bwlch hwn. Mae REASSURE yn cofnodi ac yn manylu ar feysydd pryder o ran lles ymchwilwyr, ar sail profiad yr ymchwilwyr eu hunain.
Wedyn, a hyn sy’n hollbwysig, bydd REASSURE yn llunio strategaethau ar gyfer lliniaru’r rhain. Bydd REASSURE yn tynnu ar sylfaen wybodaeth meysydd cysylltiedig, gan gynnwys gorfodi’r gyfraith, cwmnïau technoleg a newyddiaduraeth, i lunio Siarter ar gyfer Moeseg a Diogelwch Ymchwilwyr (CARES). Caiff hon ei theilwra ar gyfer ymchwilwyr sy’n ymwneud ag eithafiaeth a therfysgaeth ar-lein, gan roi canllawiau am arfer gorau iddynt.
Diben REASSURE yw gwella lles a diogelwch ymchwilwyr ym maes eithafiaeth a therfysgaeth ar-lein drwy gydweithredu â’r gymuned o ysgolheigion yn y maes hwn.