
Mae Rhaglen Sgiliau Cyfathrebu Ysgol y Gyfraith Abertawe wedi cael blwyddyn wych gyda 2 bencampwriaeth yn y DU ac 1 bencampwriaeth ryngwladol eleni, a daeth y myfyrwyr trydedd flwyddyn Tegan Bennett a Maren Julian yn agos at drydydd teitl domestig drwy gyrraedd rownd derfynol Cystadleuaeth Ddadlau Undeb Siaradwyr Lloegr/Essex Court Chambers. Wrth orffen yn ail, dyma'r tîm mwyaf llwyddiannus erioed o Abertawe yn y gystadleuaeth hon sy'n tanlinellu cryfder y rhaglen sgiliau yn ysgol y gyfraith.
Dyma'r gystadleuaeth ddadlau flaenllaw yn y Deyrnas Unedig a chanddi 64 o leoedd ar gael a bydd prifysgolion yn aml yn dewis eu timau cryfaf i gymryd rhan ynddi. Dechreuodd y llwybr i'r rownd derfynol, a'r Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol, ym mis Ionawr pan wnaeth carfan o 4 (gyda'r myfyriwr blwyddyn olaf statws hŷn Naomi Headley a'r myfyriwr ail flwyddyn Colm Yethon yn ymuno â Tegan a Maren) symud heibio timau o Gaer-wynt a Chaerdydd cyn cael buddugoliaeth yn erbyn Prifysgol Bryste yn y rownd go-gynderfynol.
O ganlyniad i hynny, aeth y tîm i Lundain ar gyfer Diwrnod y Rowndiau Terfynol, ynghyd â Phrifysgol Sussex, Prifysgol John Moores Lerpwl a Phrifysgol Caerlŷr. Roedd y senario yn broblem cyfraith fasnachol gymhleth a oedd yn canolbwyntio ar benderfyniad yr Uchel Lys yn 2024 ac roedd angen cryn dipyn o baratoi ar fesurau iawndal priodol a pherthnasedd anghysbellrwydd. Yn y rownd gynderfynol, wrth gael eu croesholi gan banel uchel ei fri gan gynnwys Charlie Ciumei CB a Barrie Goldstone o Brifysgol Fetropolitan Llundain, perfformiodd y tîm yn wych a chawsant eu gwobrwyo drwy symud ymlaen i'r Rownd Derfynol, lle byddent yn wynebu Caerlŷr.
Roedden nhw'n gallu paratoi yn y prynhawn diolch i Ystafelloedd Cynadledda a ddarparwyd yn hael gan Essex Court Chambers ac yna gwnaethant gystadlu yn y Rownd Derfynol yn erbyn Caerlŷr yn Llys 7 y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol, gerbron panel a oedd yn cynnwys yr Arglwyddes Ustus Andrews, Mr Ustus Bryan, a Paul Stanley CB. Gwnaethant ymdopi ag ymyriadau craff ac amddiffyn eu hachos yn gadarn, gan dderbyn canmoliaeth uchel am eu gallu i addasu a'u natur bwyllog dan bwysau. Yn y pendraw, tîm cryf iawn o Gaerlŷr, a oedd wedi ymddwyn â phroffesiynoldeb rhagorol drwy gydol y diwrnod ac yr oedd Tegan a Maren wedi mwynhau sgwrsio â nhw cyn ac ar ôl y ddadl, oedd yn fuddugol o drwch blewyn.
Cafodd Maren a Tegan gynnig tymor prawf byr yn Essex Court Chambers yn ogystal â gwobr ariannol a'r darian am ddod yn ail, a gwnaethant elwa'n fawr o'u profiad.
Wrth siarad am y profiad, meddai Maren: "Roedd cystadlu yn y gystadleuaeth hon yn brofiad gwych, ac rwy'n falch iawn o gynrychioli Abertawe yn y rownd derfynol. Diolch yn arbennig i'r staff sy'n ymwneud â'r Rhaglen Sgiliau Cyfathrebu a'r timau arweinyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe am eu cefnogaeth ddiwyro drwy gydol y gystadleuaeth. Byddwn yn argymell cystadlaethau dadlau i bob myfyriwr y gyfraith!"
Os ydych chi'n fyfyriwr presennol neu'n ddarpar fyfyriwr a hoffech chi ddysgu rhagor am Raglen Sgiliau Cyfathrebu Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe, e-bostiwch Matthew Parry