Mae Kate yn fyfyrwraig PhD yn Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe, yn ymchwilio i'r fframwaith cyfreithiol a hawliau dynol yng Nghymru, yn benodol yr agweddau sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc ag anableddau dysgu ac awtistig.
Graddiodd Kate â gradd BA mewn Newyddiaduraeth, Ffilm a Darlledu o Brifysgol Caerdydd yn 2005 ac mae hefyd yn athrawes gymwysedig wedi iddi gwblhau'r cwrs TAR yn 2010.
Fodd bynnag, fel mam i fab ag anabledd dysgu difrifol ac awtistig, mae hi wedi cael profiad personol o ystod o anghydraddoldebau systemig a gwahaniaethu ac felly, wedi mabwysiadu llwybr gyrfa gwahanol, gyda dyheadau i newid y dirwedd anableddau er gwell.
Wedi hyn, cwblhaodd Kate y Diploma yn y Gyfraith i Raddedigion ym Mhrifysgol Abertawe yn 2017, cyn cwblhau'r LPC a'r LLM yn 2019. Yn ystod ei hastudiaethau, gweithiodd ar nifer o rolau cyflogedig a pro-bono, yn cynnwys fel cynorthwy-ydd cyfreithiol ar gyfer yr 'Ymchwiliad i Waed Heintiedig', a darparu cefnogaeth i 'ymgyfreithwyr drostynt eu hunain' drwy ddesg gymorth 'ymgyfreithwyr' Prifysgol Abertawe, wedi'i lleoli yng Nghanolfan Llysoedd Sifil a Theuluoedd Abertawe. Enillodd ysgoloriaeth academaidd (Ysgoloriaeth Ymchwil 3+1 y Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol) gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a chwblhaodd MSc mewn Dulliau Ymchwil Gymdeithasol yn 2022, cyn cychwyn ar PhD yn y Gyfraith.